Creu canllaw prosiect dwyieithog
Pam creu canllaw prosiect dwyieithog?
Wrth ysgrifennu eich cais, bydd angen i chi ystyried y Gymraeg ac esbonio'n glir sut y byddwch yn cyflawni'ch prosiect yn ddwyieithog. Bydd hyn yn cael ei ystyried yn ystod y broses asesu a bydd yn rhan o benderfyniad y panel.
Er mwyn dangos i'r panel eich bod wedi ystyried y Gymraeg, rydym yn eich annog i greu canllaw prosiect dwyieithog.
Gall hon hefyd fod yn ddogfen ddefnyddiol i'r rhai sy'n rheoli'r prosiect, ac i'ch defnyddwyr gwasanaeth weld pa wasanaethau sydd ar gael yn Gymraeg.
Os nad Cymraeg yw eich iaith gyntaf, efallai y bydd ei ymgorffori yn eich prosiect yn teimlo'n frawychus. Bydd y canllaw hwn yn eich cyfeirio at gefnogaeth ac adnoddau i'ch helpu i wneud hyn yn effeithiol. Os ydych chi'n meddwl y bydd angen cymorth ychwanegol arnoch, fel gwasanaethau cyfieithu, cofiwch gynnwys y costau hyn yng nghyllideb eich prosiect.
Pethau i'w cynnwys mewn canllaw prosiect dwyieithog
Ymgynghoriad
Mae'n bwysig meddwl am sut rydych chi'n bwriadu rhedeg eich prosiect yn ddwyieithog cyn ysgrifennu eich cais. Er enghraifft, ystyriwch:
faint o siaradwyr Cymraeg sydd yn eich cymuned
a oes grŵp i bobl sy'n dysgu Cymraeg yn eich cymuned
a all siaradwyr Cymraeg a'r rhai sy'n dysgu'r iaith elwa o'ch prosiect – ac os felly, sut
Beth fydd angen ei gynhyrchu'n ddwyieithog a sut?
Gohebiaeth
Er mwyn cefnogi'r Gymraeg a sicrhau cyfathrebu dwyieithog cyson, dylech:
anfon llythyrau yn ddwyieithog a defnyddio llofnod e-bost dwyieithog
ymateb yn Gymraeg i lythyrau ac e-byst rydych chi’n eu derbyn yn Gymraeg
ateb y ffôn gyda chyfarchiad dwyieithog, gyda'r Gymraeg yn gyntaf
annog staff i gyfarch cwsmeriaid yn Gymraeg
annog staff i wisgo bathodyn 'Cymraeg Gwaith', p'un a ydynt yn siaradwyr rhugl neu'n ddysgwyr - gallwch archebu bathodynnau a llinynnau’n rhad ac am ddim gan Gomisiynydd y Gymraeg
dangos yn glir bod gwasanaeth Cymraeg ar gael mewn mannau derbyn gan ddefnyddio poster 'Cymraeg Gwaith'
Deunyddiau ysgrifenedig
Dylai'r holl ddeunyddiau ysgrifenedig a gynhyrchir fel rhan o'ch prosiect gefnogi'r Gymraeg drwy fodloni'r gofynion canlynol:
sicrhau bod yr holl ddogfennau sy'n gysylltiedig â'r prosiect ar gael yn Gymraeg, gan gynnwys posteri, pamffledi, llyfrynnau a chynnwys y wefan
rhowch y testun Cymraeg ar y chwith lle mae'r cynnwys yn cael ei arddangos mewn dwy golofn, neu'n gyntaf lle nad oes colofnau
defnyddio'r un ffont, lliw a maint ffont ar gyfer y ddwy iaith
Digidol
Gwefan
Os ydych chi'n defnyddio grant ar gyfer gwefan, neu'n hyrwyddo'r prosiect sy’n cael ei ariannu ar-lein:
gwnewch yn siŵr bod unrhyw wefan newydd yn ddwyieithog
sicrhewch bod unrhyw adran o wefan sy'n cynnwys y prosiect wedi’i ariannu yn ddwyieithog
defnyddiwch ein logo dwyieithog
ystyriwch ychwanegu'r opsiwn ar frig pob tudalen i newid rhwng ieithoedd
Cyfryngau cymdeithasol
Wrth ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol neu gynhyrchu cynnwys digidol:
gwnewch yn siŵr bod pob post cyfryngau cymdeithasol yn ddwyieithog
atebwch unrhyw gwestiynau sy’n cael eu gofyn yn Gymraeg yn Gymraeg
rhaid i ffilmiau rydych chi'n eu cynhyrchu gyda'n grantiau fod yn ddwyieithog lle bo hynny'n bosibl, neu dylent gael eu cynhyrchu fel fideos Cymraeg a Saesneg ar wahân
dylech gynllunio ymgyrchoedd marchnata yn ddwyieithog o'r dechrau
Mae canllawiau ar ddylunio dwyieithog, gan gynnwys posteri a phostiadau cyfryngau cymdeithasol, ar wefan Comisiynydd y Gymraeg
Cynllunio digwyddiad neu gyfarfod
Os ydych chi'n cynnal digwyddiadau neu gyfarfodydd cyhoeddus, rhaid i chi roi cyfle i bobl ddefnyddio'r Gymraeg os ydynt eisiau – gan gynnwys siaradwyr yn y digwyddiad. Os ydynt yn dymuno defnyddio'r Gymraeg ac mae'r cyfarfod yn cael ei gynnal yn Saesneg, rhaid i chi ddarparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
Mae’n rhaid i chi hefyd:
sicrhau bod y ffurflenni cadw lle, cofrestru ac adborth yn ddwyieithog, yn ogystal â chyhoeddiadau, baneri a thocynnau
sicrhau bod unrhyw gyflwyniadau PowerPoint yn ddwyieithog
anfon gwahoddiadau dwyieithog - wrth anfon gwahoddiad at unigolyn, rhaid i chi ofyn iddynt a hoffent ddefnyddio'r Gymraeg ac, os felly, rhoi gwybod iddynt y bydd cyfieithydd ar gael
trefnu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os:
bydd mwy nag un person wedi’i wahodd ac o leiaf 10% (ond llai na 100%) yn gofyn am ddefnyddio'r Gymraeg
yw pawb a wahoddwyd yn gofyn am ddefnyddio'r Gymraeg, oni bai bod y cyfarfod yn cael ei gynnal yn llawn yn Gymraeg
ar gyfer cyfarfodydd cyhoeddus, nodwch ym mhob deunydd hyrwyddo bod croeso i unrhyw un sy'n bresennol ddefnyddio'r Gymraeg
sicrhau bod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gael ym mhob cyfarfod cyhoeddus
defnyddio cyfieithydd ar y pryd achrededig
Hysbysebu swyddi gwag a'r broses recriwtio
Os ydych chi'n defnyddio'ch grant i gyflogi staff neu weithwyr tymor byr, dylech gefnogi'r Gymraeg drwy gydol y broses recriwtio drwy:
ystyried a oes angen siaradwr Cymraeg yn y rôl
hysbysebu pob swydd wag newydd yn ddwyieithog a nodi a yw sgiliau Cymraeg yn hanfodol neu'n ddymunol
cynnig yr opsiwn i ymgeiswyr gael eu cyfweliad yn Gymraeg
darparu contractau a gohebiaeth barhaus yn yr iaith a ddewiswyd gan yr unigolyn, ar ôl ei benodi
Dysgu a defnyddio'r Gymraeg
Annog staff i ddysgu a defnyddio'r Gymraeg yn eu gwaith o ddydd i ddydd drwy wneud y canlynol:
cynnig hyfforddiant Cymraeg i'ch staff
cyfrannu tuag at gost gwersi i staff sydd eisiau dysgu neu wella eu Cymraeg
caniatáu i staff gael gwersi Cymraeg yn ystod oriau gwaith lle bo'n bosibl
annog staff i ddefnyddio offer fel Cysill (gwirydd sillafu Cymraeg) ac adnoddau fel BydTermCymru (cronfa termau chwiliadwy a Geiriadur yr Academi (geiriadur ar-lein) i'w helpu i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg
Darparu cyrsiau a hyfforddiant
Wrth ddarparu hyfforddiant yn eich sefydliad:
dylech gynnig hyfforddiant dwyieithog yn eich gweithle
dylech sicrhau bod marchnata ar gyfer hyfforddiant yn ddwyieithog
dylech gofnodi nifer y staff sydd â sgiliau Cymraeg, a chadw'ch cofnodion yn gyfoes
Rhannu gwybodaeth am eich gwasanaethau Cymraeg yn eich gweithlu
Gwnewch yn siŵr bod staff yn deall y gwasanaethau Cymraeg sydd ar gael drwy sicrhau bod pawb yn ymwybodol o'r gwasanaethau Cymraeg rydych chi'n eu darparu, a rhannwch becyn gwybodaeth am wasanaethau Cymraeg gyda phawb sy'n newydd.
Gweithio gyda chontractwyr a phartneriaid
Wrth weithio gyda chontractwyr, dylech:
ddarparu gwybodaeth neu negeseuon dwyieithog i unrhyw sefydliad sy'n rhannu gwybodaeth ar eich rhan
sicrhau bod partneriaid a chwsmeriaid yn cael eu hysbysu am eich gwasanaethau Cymraeg
Costau cyfieithu
Mae costau cyfieithu yn amrywio yn dibynnu ar brofiad cyfieithydd, ond maen nhw’n tueddu i fod rhwng 6-10c y gair. Os nad ydych chi'n siŵr am rywbeth, gallwch anfon e-bost atom yn cymorthcymraeg@cronfagymunedolylg.org.uk. Gallech hefyd gysylltu â chyfieithydd am ddyfynbris. Gallwch ddarganfod mwy gan Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru.
Cynnig Cymraeg
Mae'r Cynnig Cymraeg yn gydnabyddiaeth gan Gomisiynydd y Gymraeg sy'n cael ei roi i sefydliadau sydd â chynllun cryf. Mae'n gyfle i drawsnewid eich ymgysylltiad â phobl drwy ddangos pa mor falch ydych chi o gynnig gwasanaethau yn Gymraeg.
Unwaith y bydd gennych bolisi neu gynllun ar waith, gall y Comisiynydd weithio gyda chi i'w ddatblygu ymhellach a gweithio tuag at ennill cydnabyddiaeth swyddogol.
Gallwch ddarganfod mwy ar wefan Comisiynydd y Gymraeg.
Enghreifftiau o arfer da
Gallwch ddod o hyd i gymorth pellach ac enghreifftiau o arfer da i'ch helpu i weithio'n ddwyieithog drwy:
edrych ar enghreifftiau o bostiadau cyfryngau cymdeithasol dwyieithog ar y wefan Hands Up For Down's
archwilio ein templedi rhad ac am ddim ar gyfer brandio dwyieithog
ymuno â'r 'sesiynau dwyieithrwydd yn y gwaith', sy’n cael eu darparu mewn partneriaeth â Thîm Hybu Comisiynydd y Gymraeg - am wybodaeth a dyddiadau, e-bostiwch cymorthcymraeg@cronfagymunedolylg.org.uk
cysylltu â Swyddog y Gymraeg mewnol yn cymorthcymraeg@cronfagymunedolylg.org.uk am gyngor ar reoli prosiectau yn ddwyieithog neu am wybodaeth gyffredinol am y Gymraeg yng Nghronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol
Adnoddau defnyddiol
I gael cyngor ar gyfieithu, recriwtio a'r holl elfennau o gyflawni eich prosiect yn ddwyieithog, anfonwch e-bost at ein tîm Cymraeg yn cymorthcymraeg@cronfagymunedolylg.org.uk.
Gwasanaethau cyfieithu
Helo Blod (gwasanaeth cyfieithu rhad ac am ddim gan Lywodraeth Cymru – hyd at 500 gair y mis)
Comisiynydd y Gymraeg
gwasanaeth prawfddarllen rhad am ddim – e-bost: post@cyg-wlc.wales
llinynnau, bathodynnau a phosteri gyda logo Cymraeg - Cymraeg Gwaith
Dysgu Cymraeg
Gwirio sillafu, gwirio termau a geiriaduron
Term Cymru (cronfa ddata chwiliadwy o dermau geiriau a ddefnyddir gan gyfieithwyr Llywodraeth Cymru)
Cymorth Cymraeg: Porth Termau (cronfa ddata o dermau a diffiniadau Cymraeg-Saesneg chwiliadwy, Prifysgol Bangor)
Cysill Ar-lein (Gwiriad sillafu Cymraeg)
Geiriadur yr Academi (Geiriadur Saesneg-Cymraeg)