Sut mae Safonau'r Iaith Gymraeg yn effeithio arnoch chi pan fyddwch yn cyfathrebu â ni
Yn 2017, dechreuodd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol weithredu o dan Safonau'r Gymraeg. Mae'r safonau'n darparu fframwaith cyfreithiol i gefnogi'r iaith Gymraeg, gan sicrhau y gall pobl fyw eu bywydau drwy'r Gymraeg a chyrchu gwasanaethau yn yr iaith.
Mae hyn yn golygu, pan fyddwch yn cysylltu â ni yn Gymraeg, y byddwn yn gwneud y canlynol:
- trin y Gymraeg a Saesneg yn gyfartal bob amser yn ein gwaith ledled Cymru
- parchu hawl unigolion i fyw eu bywydau bob dydd drwy gyfrwng y Gymraeg
Ysgrifennu atom
Pan fyddwch chi'n ysgrifennu llythyr neu e-bost atom, gallwch wneud hynny yn Gymraeg a byddwn yn ateb yn Gymraeg.
Pan fyddwn yn ysgrifennu atoch am y tro cyntaf, byddwn yn gwneud hynny'n ddwyieithog ac yn gofyn a hoffech dderbyn llythyrau neu negeseuon e-bost gan y Gronfa yn Gymraeg yn y dyfodol. Os byddwch yn dweud wrthym ni eich bod am dderbyn gohebiaeth gennym yn Gymraeg, byddwn yn gwneud nodyn o hyn ac yn cofio hynny y tro nesaf y byddwn yn cysylltu â chi.
Pan fyddwn ni'n ysgrifennu at nifer o bobl ar yr un pryd, byddwn ni bob amser yn gwneud hynny'n ddwyieithog.
Wyneb yn wyneb
Mae'n debyg y byddwch chi hefyd yn cwrdd â ni wyneb yn wyneb ar adegau. Gallai hyn fod mewn cyfarfod mewn digwyddiad cymunedol, cyfarfod cyhoeddus, neu mewn arddangosfa.
Byddwn yn hysbysebu ac yn anfon gwahoddiadau i gyfarfodydd a digwyddiadau yn ddwyieithog. Byddwn hefyd yn cynnig cyfleusterau cyfieithu os ydych am gyfrannu yn Gymraeg. Bydd yr holl ddeunyddiau a gwybodaeth ar gael yn Gymraeg pan fyddwn yn cynnal digwyddiadau neu'n cymryd rhan mewn digwyddiadau gyda sefydliadau eraill. Beth bynnag fo'r sefyllfa neu'r achlysur, byddwch yn gallu cymryd rhan yn Gymraeg.
Dros y ffôn
Pan fyddwch chi'n ein ffonio ni, byddwn ni'n ateb yn Gymraeg a Saesneg. Byddwch chi wastad yn gallu siarad â ni yn Gymraeg. Os nad oes siaradwr Cymraeg ar gael, byddwn yn rhoi gwybod i chi pryd y bydd rhywun ar gael ac yn eich ffonio'n ôl.
Gallwch adael neges i ni yn Gymraeg ar unrhyw adeg, a bydd ein gwasanaeth yn y ddwy iaith bob amser o'r un safon uchel.
Ar bapur ac mewn print
Bydd yr holl ddogfennau, llyfrynnau, deunyddiau hyrwyddo, taflenni a ffurflenni rydym ni’n eu cynhyrchu yng Nghymru ar gael yn y ddwy iaith.
Ar-lein
Ein gwefan
Rydym yn diweddaru ein gwefan yn rheolaidd gyda gwybodaeth am ein gwaith a'n prosiectau. Mae'r holl dudalennau sy'n berthnasol i Gymru ar gael yn Gymraeg, a gallwch newid rhwng yr ieithoedd yn hawdd ar frig pob tudalen.
Pan fyddwn yn diweddaru tudalennau Saesneg, rydym yn diweddaru'r dudalen Gymraeg gyfatebol ar yr un pryd.
Cyfryngau cymdeithasol
Rydym yn defnyddio LinkedIn a Facebook i gadw mewn cysylltiad â grwpiau a rhannu ein newyddion. Rydym yn defnyddio Cymraeg a Saesneg, ac mae croeso i chi gysylltu â ni yn Gymraeg ar LinkedIn a Facebook.
@TNLComFundWales
Ein swyddfeydd
Mae gennym ddwy swyddfa yng Nghymru – un yn Y Drenewydd a'r llall yng Nghaerdydd. Rydym yn darparu gwasanaethau iaith Gymraeg a Saesneg yn y ddau. Mae staff sy'n siarad Cymraeg yn gwisgo bathodyn fel y gallwch weld pwy sy'n siarad Cymraeg.
Mae'r iaith Gymraeg yn amlwg yn ein swyddfeydd – mae'r holl arwyddion yn Gymraeg a Saesneg. Bydd gwybodaeth sydd ar gael ac yn cael ei harddangos yn ein swyddfeydd yn y ddwy iaith.
Grantiau
Dosbarthu arian y Loteri Genedlaethol yw ein prif faes gwaith. Bob blwyddyn, rydym yn rhoi miliynau o bunnoedd i brosiectau ac achosion da ledled y wlad sy'n gwella iechyd, addysg a'r amgylchedd.
Mae llawer o grwpiau ac unigolion sy'n gwneud cais am grantiau yn fwy hyderus i wneud hyn yn Gymraeg – ac rydym yn croesawu hyn.
Os ydych chi'n gwneud cais am grant yn Gymraeg, ni fydd hyn yn arafu'r broses o ymdrin â'ch cais. Caiff ceisiadau grant eu hystyried yn yr iaith maen nhw’n cael eu cyflwyno, ac mae tîm o siaradwyr Cymraeg yn delio â cheisiadau a dderbynnir yn Gymraeg. Unwaith y byddwch yn gwneud cais am grant, gallwch fynd drwy'r broses gyfan yn Gymraeg os byddwch yn dymuno – o'r cyfarfod cyntaf i'r llythyr olaf.
Fel cyflogwr
Rydym wedi ymrwymo i'r egwyddor y gall ein staff fyw eu bywydau gwaith gan ddefnyddio'r Gymraeg yn unol â'r safonau – o lenwi ffurflen gais a chael cyfweliad, i drefnu amser i ffwrdd neu drafod materion cyflogaeth.
Wrth recriwtio, rydym yn ystyried yr angen am sgiliau Cymraeg mewn unrhyw rôl newydd neu rôl yn lle rhywun arall. Pan fyddwn yn hysbysebu rolau sy'n gofyn am sgiliau Cymraeg, byddwn yn nodi hyn ac yn hysbysebu yn Gymraeg.
Rydym yn annog staff i ddefnyddio'r Gymraeg ar bob cyfle ac yn darparu cymorth i ddatblygu sgiliau i ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg rhugl.
Llunio polisi
Mae gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ystod eang o bolisïau sy'n esbonio sut rydym yn cynnal ein busnes a'n gwasanaethau. Pan fyddwn yn adolygu un o'n polisïau neu'n datblygu polisi newydd, rydym ni’n ystyried unrhyw effaith ar y Gymraeg a chyfleoedd i'w defnyddio.
Ar gyfer pob polisi newydd, byddwn yn ystyried sut y gallant gefnogi cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg yn gadarnhaol. Byddwn hefyd yn asesu'r effaith ar y Gymraeg yn ystod ymgynghoriadau ac ymchwil, ac yn ceisio barn fel rhan o'r broses o ddatblygu polisi.