Neidio i'r prif gynnwys

Croeso i’n gwefan newydd. Efallai y byddwch yn gweld rhai tudalennau o’n hen wefan wrth i ni symud pethau draw.

Gwneud cwyn am ein gwasanaethau Cymraeg

Safonau'r Gymraeg

O dan Fesur y Gymraeg 2011 a Safonau'r Gymraeg a ddaeth i rym ar 25 Ionawr 2017, rhaid i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ddarparu gwasanaeth dwyieithog lle caiff y Gymraeg a'r Saesneg eu trin yn gyfartal.

Rydym wedi ymrwymo i'r gofyniad hwn ac rydym yn awyddus i wneud gwelliannau pan fo angen.

Y weithdrefn ar gyfer delio â chwynion am y Gronfa

Gallwch gwyno am ein gwasanaeth Cymraeg os:

  • nad ydych chi wedi derbyn gwasanaeth yn Gymraeg, er i chi ofyn am hyn
  • ydych chi’n teimlo nad ydych wedi derbyn gwasanaeth yn Gymraeg i'r safon a ddisgwylir gan y Gronfa
  • ydych chi’n credu nad yw'r Gronfa wedi cyflawni ei rhwymedigaethau o dan Safonau'r Gymraeg

Cam 1

Os nad ydych yn fodlon ar y gwasanaeth rydych chi wedi'i dderbyn, dylech godi hyn yn gyntaf gyda'r rhai yr ydych wedi bod yn cyfathrebu â nhw.
Mae ein staff wedi'u hyfforddi i ddelio â chwynion sy'n ymwneud â Safonau'r Gymraeg. Byddant yn adolygu'ch cwyn ac rydym ni’n anelu at ddatrys y rhan fwyaf o gwynion cyn gynted â phosibl.
Caiff pob cwyn am y Gymraeg eu rhannu gyda thîm iaith Gymraeg y Gronfa i'n helpu i wella ein gwasanaethau yn y dyfodol.

Cam 2

Os nad ydych yn fodlon ar yr ymateb a gawsoch chi, gallwch roi eich cwyn i dîm iaith Gymraeg y Gronfa yn ysgrifenedig, naill ai drwy:

Yn eich e-bost neu lythyr, mae angen i chi ddweud wrthym:

  • beth ddigwyddodd
  • pryd y digwyddodd hyn
  • gyda phwy yr oeddech chi’n cyfathrebu
  • yr hyn yr hoffech i ni ei wneud mewn ymateb i'ch pryderon
  • nodi pa un o'r 4 categori o Safonau'r Gymraeg mae eich cwyn yn ymwneud ag ef: darparu gwasanaeth, llunio polisïau, gweithredol, neu gadw cofnodion
  • y safon benodol mae eich cwyn yn ymwneud â hi (os yw'n hysbys)
  • unrhyw wybodaeth berthnasol arall 

Os nad yw'n bosibl rhoi eich cwyn yn ysgrifenedig, gallwch ffonio ein tîm iaith Gymraeg ar 0300 123 0735.


Pryd fyddwch chi'n clywed gennym ni


Byddwn yn cydnabod eich cwyn cyn o fewn 5 diwrnod gwaith i'w derbyn. Byddwn hefyd yn dweud wrthych chi:

  • pwy fydd yn delio â'ch cwyn
  • sut i gysylltu â nhw
  • pryd y gallwch ddisgwyl ymateb llawn i'ch cwyn

Ein nod yw ymateb i'ch cwyn o fewn 10 diwrnod gwaith. Os nad yw hyn yn bosibl, byddwn yn esbonio pam ac yn rhoi gwybod i chi pryd y gallwch ddisgwyl ymateb.

Rydym yn gobeithio y byddwn yn gallu datrys eich pryderon ar y cam hwn.

Cam 3

Os ydych yn teimlo nad ydym wedi ymateb i'ch pryderon neu nad ydym wedi ymateb yn llawn i'ch cwyn, gallwch fynd â'ch cwyn at Gomisiynydd y Gymraeg. Gallwch wneud hyn drwy: