Neidio i'r prif gynnwys

Croeso i’n gwefan newydd. Efallai y byddwch yn gweld rhai tudalennau o’n hen wefan wrth i ni symud pethau draw.

Sut rydym yn cefnogi a hyrwyddo cydymffurfiaeth â Safonau'r Gymraeg

 Mae Safonau’r Gymraeg sy'n berthnasol i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi'u rhannu'n 4 categori: 

  • darparu gwasanaeth
  • llunio polisïau
  • safonau gweithredol
  • cadw cofnodion

Goruchwylio cydymffurfiaeth

Rydym wedi penodi swyddog Cymraeg yn y Gronfa. Mae'r swydd lawn amser hon yn bennaf gyfrifol am sicrhau cydymffurfiaeth â Safonau'r Gymraeg a dyma'r cyswllt ar gyfer materion cysylltiedig.

Gallwch gysylltu â nhw drwy e-bostio cymorthcymraeg@cronfagymunedolylg.org.uk.

Mae gennym hefyd gyfieithydd yn y Gronfa sy'n deall y safonau ac sydd â mynediad i'r mewnflwch e-bost.

Mae'r swyddog Cymraeg a'r cyfieithydd yn cael eu rheoli gan Reolwr Ymgysylltu Cymru, sy'n rhan o Dîm Rheoli Cymru.

Mae'r Swyddog y Gymraeg yn adrodd i Bwyllgor Cymru y Gronfa yn flynyddol i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut rydym yn cydymffurfio â'r safonau, yn ogystal â mentrau i hyrwyddo a hwyluso'r Gymraeg yn fewnol ac yn allanol.

Mae dau aelod o’r pwyllgor yn siarad Cymraeg rhugl ac yn cyfathrebu yn Gymraeg yn ein cyfarfodydd gan ddefnyddio cyfieithydd ar y pryd. 

Rydym wedi ymgorffori Safonau'r Gymraeg yng Nghynllun Busnes Cymru, gan sicrhau bod pob rhaglen newydd yn cydymffurfio. Mae'r cynllun hefyd yn nodi pwysigrwydd gwasanaethau dwyieithog i ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid o ansawdd uchel.

Yn ogystal ag adrodd i Swyddfa'r Comisiynydd ar sut rydym yn bodloni ein safonau yng Nghymru, mae'r Gronfa hefyd yn cynnwys diweddariadau ar gydymffurfiaeth â'r safonau yn yr adroddiad blynyddol, sy'n cael ei gyflwyno i Lywodraeth y DU. 

Rydym yn pwysleisio bod sicrhau cydymffurfiaeth yn gyfrifoldeb i bawb. Ym mhob hysbyseb swyddi ledled y DU, rydym yn cynnwys y frawddeg hon yn y proffil rôl: 

Os yw'r rôl wedi'i lleoli yng Nghymru, neu'n cefnogi cwsmeriaid neu gydweithwyr yng Nghymru, mae angen dealltwriaeth o ddeddfwriaeth Gymraeg a Safonau'r Gymraeg y Gronfa.


Fe wnaethon ni hefyd wneud y canlynol: 

  • cyflwyno'r safonau a'n gwasanaeth Cymraeg fel rhan o'n sefydlu corfforaethol i'r holl staff sy'n ymuno â'r Gronfa ledled y DU
  • cynnwys modiwl ymwybyddiaeth iaith fel rhan o'r pecyn hyfforddi craidd, Hanfodion y Gweithle, i'r holl staff ledled y DU ei gwblhau'n flynyddol
  • cynnig yr opsiwn i staff gwblhau ein hyfforddiant craidd yn Gymraeg

Er mwyn goruchwylio cydymffurfiaeth a chynnal ein safonau gweithredu, mae gennym weithdrefn sy'n sicrhau y bydd unrhyw systemau ar-lein newydd ar gyfer staff yn cael eu caffael fel systemau dwyieithog, lle bynnag y bo modd. Mae hyn yn sicrhau bod staff yn gallu defnyddio'r systemau hyn naill ai yn Gymraeg neu'n Saesneg.

Yn unol â'n safonau llunio polisïau, mae gennym Bolisi'r Gymraeg ar gyfer grantiau. Bydd unrhyw ymchwil sy’n cael ei gomisiynu gennym yn cynnwys gofynion safonol ar y Gymraeg o fewn y cytundeb. Er enghraifft, y gallu i gynnal ymchwil yn ddwyieithog.

Mae cymal ynghylch gweithredu o fewn safonau'r Gronfa a chynnig gwasanaeth dwyieithog bob amser yn rhan o'n dogfennau tendr, pan mae'n berthnasol i ni dendro i sefydliad allanol i gynnal ymchwil ar ein rhan.

Hyrwyddo cydymffurfiaeth


Er mwyn hyrwyddo ein safonau cydymffurfio a chyflenwi gwasanaethau, rydym yn defnyddio Adnoddau Cymraeg Gwaith Comisiynydd y Gymraeg. Mae hyn yn cynnwys logos finyl mawr i'w harddangos ar ein drysau, a llinynnau a bathodynnau i'n staff eu gwisgo. 

Rydym yn defnyddio adnoddau Iaith Gwaith yn ddigidol ac yn rhithwir, drwy ddefnyddio'r logo ar dempledi llofnod e-bost a thrwy roi'r logo ar luniau ein staff Cymraeg. 

Rydym yn aml yn rhannu postiadau ar y cyfryngau cymdeithasol yn hyrwyddo prosiectau Cymraeg ac yn cynnig arweiniad ar sut i gynnig gwasanaeth dwyieithog i wneud prosiectau yn hygyrch i bawb yn y gymuned. Rydym hefyd yn defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo diwrnodau'r Gymraeg. Mae hyn yn cynnwys Diwrnod Hawliau'r Gymraeg ymgyrch Comisiynydd y Gymraeg yn pwysleisio bod gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i wasanaethau Cymraeg heb orfod gofyn amdanynt.

Mae ein blogiau hefyd yn cynnig cyngor ar ddarparu gwasanaeth dwyieithog. Rydym yn anfon ein cylchlythyr dwyieithog misol i'n tanysgrifwyr e-bost.

Cefnogi cydymffurfiaeth

Er mwyn cynnal ein safonau cydymffurfio a darparu gwasanaethau, mae ein holl ffurflenni cais am grantiau yn gofyn am yr iaith gyfathrebu a ffefrir gan y prif gyswllt ac uwch gyswllt y prosiect. Mae'r manylion hyn wedi'u cofnodi ar ein system rheoli grantiau a bydd yr holl ohebiaeth ddilynol yn yr iaith honno.
Mae ein holl ddeunyddiau ysgrifenedig yn ddwyieithog, gyda'r ddwy iaith yn cael eu cyhoeddi ar yr un pryd. Mae’r rhain yn cynnwys:

•    cylchlythyrau
•    blogiau
•    datganiadau i'r wasg
•    postiadau cyfryngau cymdeithasol

Ar gyfer cyfarfodydd rhithwir gyda chwsmeriaid neu randdeiliaid allanol, megis digwyddiadau ariannu a hyfforddiant prosiectau, rydym yn cynnig sesiynau ar wahân yn Gymraeg a Saesneg lle bo hynny'n bosibl. Rydym hefyd yn cynnal un digwyddiad dwyieithog ac yn defnyddio cyfieithydd pan nad oes digon o siaradwyr Cymraeg i gynnal sesiwn ar wahân.

Yn unol â'n safonau llunio polisïau, rydym yn ceisio barn siaradwyr Cymraeg a chymunedau Cymraeg yn ystod cyfnod datblygu rhaglenni. Rydym hefyd yn profi'r deunyddiau cais gyda nhw cyn ei lansio. Cynhelir digwyddiadau ymgynghori yn bersonol neu ar-lein yn ddwyieithog, ac anogir siaradwyr Cymraeg i gyfrannu yn Gymraeg.

Yn unol â'n safonau gweithredu, rydym yn gweithio'n agosach gyda'r tîm AD i wella dulliau recriwtio. Ac, rydym wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer y siaradwyr Cymraeg rydyn ni'n eu denu i weithio i'r Gronfa. Mae mwy na hanner staff cyfarwyddiaeth Cymru bellach yn siaradwyr Cymraeg.


Mae gennym dudalen Gymraeg bwrpasol ar ein mewnrwyd, gyda gwybodaeth fel:


•    canllawiau ar gynnal cyfarfodydd a digwyddiadau dwyieithog llwyddiannus
•    templedi e-bost dwyieithog
•    prosesau ar gyfer cyfieithu dogfennau