Neidio i'r prif gynnwys

Croeso i’n gwefan newydd. Efallai y byddwch yn gweld rhai tudalennau o’n hen wefan wrth i ni symud pethau draw.

Yr hyn rydyn ni eisiau ei ariannu

Yr hyn y dylai eich ffurflen gais ei ddangos

Yn eich ffurflen gais, mae’n rhaid i chi ddangos sut y bydd eich prosiect yn:

  • cynnwys eich cymuned wrth ddylunio a chyflawni’r prosiect
  • adeiladu ar sgiliau, profiadau a chryfderau eich cymuned
  • deall beth sy’n bodoli’n lleol eisoes – ac esbonio sut y bydd eich prosiect yn llenwi bwlch
  • ystyried effaith eich prosiect ar yr amgylchedd. Er enghraifft, rhannu cludiant trwy ddefnyddio bws mini yn hytrach na phawb yn teithio ar wahân mewn car

Yr hyn y gallwn ei ariannu

Gyda grantiau canolig, gallwn ariannu:

  • gweithgareddau newydd neu weithgareddau sy’n bodoli eisoes
  • tir, adeiladau, cerbydau neu waith adnewyddu (gelwir y rhain yn gostau cyfalaf)
  • cynllunio gwaith ar gyfer prosiect cyfalaf.

Gyda grantiau mawr, gallwn ariannu:

  • gweithgareddau newydd neu weithgareddau sy’n bodoli eisoes
  • tir, adeiladau, cerbydau neu waith adnewyddu (gelwir y rhain yn gostau cyfalaf)

Cydraddoldeb, tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant

Rydym ni’n disgwyl i'ch prosiect a’ch sefydliad fod yn agored, cynhwysol a hygyrch. Dylech hyrwyddo cydraddoldeb a herio gwahaniaethu.

Gallwch gynnwys costau i helpu i wneud eich prosiect yn fwy hygyrch i'ch cymuned yn y gyllideb.

Cyrraedd grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol

Yn eich ffurflen gais, byddwn yn gofyn i chi sut rydych chi’n bwriadu cyrraedd grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. Gall y rhain gynnwys:

  • pobl hŷn
  • pobl anabl
  • merched
  • pobl o leiafrifoedd ethnig
  • cymunedau sy'n seiliedig ar ffydd
  • pobl LHDTC+
  • pobl mewn ardaloedd gwledig

Byddem yn hoffi deall eich ymagwedd tuag at gydraddoldeb, tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant. Efallai y byddwn ni’n gofyn am weld polisi cydraddoldeb eich sefydliad fel rhan o'n hasesiad.

Darllenwch ragor am ein hegwyddorion cydraddoldeb.

Ystyried eich effaith amgylcheddol

Nid oes rhaid i chi fod yn sefydliad amgylcheddol i ymgeisio. Fodd bynnag, rydym am ariannu prosiectau sy’n ystyried eu heffaith ar yr amgylchedd.

Yn eich ffurflen gais, rydym ni am i chi ddweud wrthym ni am y camau rydych chi’n eu cymryd i leihau niwed neu hyd yn oed sut rydych chi wedi cael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd. Gallai hyn gynnwys lleihau eich teithio, gwastraff neu ddefnydd o ynni.

Dylech:

Am fewnwelediadau, astudiaethau achos a chyfleoedd ariannu, ewch i’n tudalennau cynaliadwyedd amgylcheddol.

Os yw eich prosiect yn cynnwys plant, pobl ifanc neu oedolion bregus

Mae’n rhaid i chi gael polisi diogelu sy'n esbonio sut y byddwch yn cadw pobl yn ddiogel. Os ydyn ni’n ariannu eich prosiect, mae’n rhaid i chi ddilyn ein disgwyliadau diogelu.

Mae gwefan NCVO yn cynnwys cyngor ac adnoddau ar ddiogelu plant.

Cyflwyno eich prosiect yn y Gymraeg a’r Saesneg

Mae’n rhaid i chi gyflwyno bob prosiect yng Nghymru yn ddwyieithog.

Mae hyn yn golygu y dylai pobl allu cael mynediad at eich prosiect yn y Gymraeg a’r Saesneg. Gallwch gynnwys costau ar gyfer gwasanaethau dwyieithog yn eich cyllideb, er enghraifft cost cyfieithu deunydd hyrwyddo.

Er mwyn eich helpu i wneud hyn, dylech:

Am ragor o gymorth cysylltwch â Thîm yr Iaith Gymraeg drwy e-bostio cymorthcymraeg@cronfagymunedolylg.org.uk.