Pwy all ymgeisio
Gallwch ymgeisio os yw eich sefydliad yn un o’r canlynol:
- sefydliad gwirfoddol neu gymunedol cyfansoddedig
- grŵp neu glwb cyfansoddedig
- elusen gofrestredig
- cwmni nid er elw
- cwmni buddiannau cymunedol (CIC)
- menter gymdeithasol
- ysgol (cyn belled â bod eich prosiect yn cynnwys ac o fudd i’r cymunedau o amgylch yr ysgol a’i fod ar wahân i unrhyw ddarpariaeth statudol)
- corff statudol (gan gynnwys awdurdodau lleol, byrddau iechyd, a chynghorau tref, plwyf neu gymuned)
Gallwch ymgeisio fel partneriaeth o sefydliadau. Rhaid i bartneriaid a fydd yn cael rhywfaint o'r grant fod yn un o'r mathau o sefydliadau rydyn ni wedi'u rhestru uchod.
Mae'n rhaid i o leiaf 80% o’r bobl fydd yn elwa o'r prosiect fyw yng Nghymru.
Gofynion bwrdd neu bwyllgor
Mae angen o leiaf 3 aelod o'r bwrdd neu bwyllgor nad ydynt yn perthyn.
Os ydych yn gwmni (yn cynnwys cwmnïau sydd hefyd wedi cofrestru fel elusennau), mae’n rhaid i chi gael o leiaf 3 chyfarwyddwr nad ydynt yn perthyn.
Rydym yn ystyried bod pobl yn perthyn os ydynt:
- wedi priodi neu mewn partneriaeth sifil
- mewn perthynas tymor hir neu’n byw gyda’i gilydd
- yn rhan o’r un teulu