Pwy na all ymgeisio
Nid ydym yn derbyn ceisiadau gan:
- unigolion
- hunan fasnachwyr
- sefydliadau sydd wedi'u lleoli y tu allan i'r DU
- cwmnïau sy'n gallu talu elw i gyfarwyddwyr, cyfranddalwyr neu aelodau (gan gynnwys Cwmnïau sydd wedi'u Cyfyngu gan Gyfranddaliadau)
- sefydliadau sy'n gwneud cais i fwy nag un o'n rhaglenni ar gyfer yr un prosiect dros yr un cyfnod. Ni allwn ddarparu grant dyblyg ar gyfer yr un prosiect trwy un arall o’n rhaglenni. Mae'n iawn gwneud cais i raglen arall os oedd eich cais blaenorol yn aflwyddiannus
Cymorth gyda’ch cais
Peidiwch â defnyddio busnes preifat neu ymgynghorwr i ysgrifennu eich ffurflen gais. Ni fyddwn yn eu derbyn.
Efallai y bydd rhai yn honni eu bod yn gweithio gyda ni neu wedi eu cymeradwyo gennym ni, nid yw hyn yn wir.
Gallwch gael help gan sefydliadau cymorth dibynadwy, fel eich awdurdod lleol neu Gyngor Gwirfoddol y Sir (CVC). Gallant roi cyngor a chefnogaeth wrth ysgrifennu'ch ffurflen gais.
Gallwch hefyd siarad gyda ni a gallwn eich rhoi mewn cyswllt â swyddog ariannu yn eich ardal chi i gael cefnogaeth ac arweiniad. Cysylltu â ni