Yr hyn y gallwch chi wario’r arian arno
Gallwn ariannu
Gallwch wario’r arian ar bethau fel:
- gorbenion, megis y costau sy’n cadw eich sefydliad i fynd. Gallwn ariannu rhan o'r costau hyn fel nad yw rhedeg y prosiect yn costio arian ychwanegol i chi. Weithiau gelwir hyn yn adennill costau llawn.
- offer
- digwyddiadau untro
- cyflogau staff
- cludiant
- biliau cyfleustodau
- treuliau gwirfoddolwyr
- costau hygyrchedd
- costau cyfalaf megis prynu tir neu adeiladau, adnewyddiadau neu gerbydau.
Gweithgarwch gwleidyddol ac ymgyrchu
Gallwn ariannu rhywfaint o weithgarwch gwleidyddol ac ymgyrchu. Ond dim ond os:
- nad yw'r gweithgaredd yn wleidyddol. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid iddo ymwneud â pholisi, arfer neu ddeddfwriaeth yn hytrach na gwrthwynebu neu gefnogi plaid wleidyddol
- bwriad y gweithgaredd yw helpu achos eich sefydliad a bod o fudd i'r cyhoedd neu gymdeithas
Ni fyddwn yn ariannu prosiectau lle mae gweithgareddau gwleidyddol yn brif bwrpas. Ond gallwn ariannu prosiectau sy'n ymwneud yn bennaf ag ymgyrchu.
Ni allwn ariannu’r canlynol
Mae rhai pethau na allwn ni eu hariannu. Mae’r rhain yn cynnwys:
- costau ôl-weithredol (costau ar gyfer pethau sydd wedi digwydd yn barod, neu yr ydych wedi talu amdanynt yn barod)
- alcohol
- costau wrth gefn, benthyciadau, gwaddolion neu log
- talu rhywun arall i ysgrifennu eich cais ar eich rhan
- gweithgareddau gwneud elw neu godi arian
- TAW y gallwch ei hadfer
- gweithgareddau crefyddol (gallwn ariannu sefydliadau crefyddol os yw eu prosiect o fudd i'r gymuned ehangach ac nad yw'n ymwneud â chynnwys crefyddol)
- gweithgareddau neu ddyletswyddau statudol
- gweithgareddau sy'n helpu plant neu bobl ifanc gyda'u gwaith ysgol yn ystod amser ysgol
- teithio dramor
- prosiectau sy'n digwydd y tu allan i'r Deyrnas Unedig
- arian a roddir yn uniongyrchol i unigolion.