Neidio i'r prif gynnwys

Croeso i’n gwefan newydd. Efallai y byddwch yn gweld rhai tudalennau o’n hen wefan wrth i ni symud pethau draw.

Cyflawni eich prosiect yn Gymraeg

Os ydych chi'n cael eich ariannu i gynnal prosiect yng Nghymru, bydd angen i chi ei gyflawni yn Gymraeg a Saesneg. Mae hyn yn golygu gwneud yn siŵr bod eich gweithgareddau a'ch cyfathrebu ar gael i'ch cymuned yn y ddwy iaith.

Dylech gynnwys costau cyflawni eich prosiect yn ddwyieithog yn eich cyllideb, er enghraifft, costau cyfieithu neu gyfieithu ar y pryd.

Gallwch ddarllen ein canllawiau ar reoli eich prosiect yn ddwyieithog.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost at y Tîm Iaith Gymraeg CymorthCymraeg@cronfagymunedolylg.org.uk

Sefydliadau sy'n cynnig cymorth

Tîm Hybu, Comisiynydd y Gymraeg

Mae'r Tîm Hybu yn cefnogi elusennau a busnesau i gynllunio eu Gwasanaethau Cymraeg. Maent yn cynnig:

  • cymorth un wrth un yn seiliedig ar anghenion
  • cyfarfodydd rhwydweithio elusennol a busnes rheolaidd i rannu profiadau ac arfer da
  • canllawiau syml ar bob agwedd ar ddatblygu gwasanaethau Cymraeg
  • system ar-lein i hunanwerthuso eich gwasanaethau
  • gwasanaeth prawfddarllen – hyd at 1,000 o eiriau y flwyddyn

E-bostiwch hybu@cyg-wlc.cymru i ddysgu rhagor.

Helo Blod

Mae Helo Blod yn wasanaeth cyflym a chyfeillgar am ddim sydd yma i gefnogi busnesau i ddefnyddio'r Gymraeg yn hyderus.

E-bostiwch HeloBlod@llyw.cymru neu ffoniwch 0300 25 88 88 i gael rhagor o wybodaeth.