Neidio i'r prif gynnwys

Croeso i’n gwefan newydd. Efallai y byddwch yn gweld rhai tudalennau o’n hen wefan wrth i ni symud pethau draw.

Sut i ymgeisio am grant mawr

Cysylltwch â ni yn gyntaf

Cyn i chi ymgeisio, fe hoffem gael sgwrs anffurfiol am eich syniad. Nid oes angen i chi baratoi unrhyw beth. Dim ond cyfle i glywed beth sydd gennych mewn golwg yw hwn, ac i’ch helpu chi i benderfynu os yw’r grant hwn yn addas.

I drefnu sgwrs:

Byddwn yn eich rhoi mewn cyswllt â swyddog ariannu yn eich ardal o fewn pum niwrnod, a fydd yn cysylltu â chi i drafod eich syniad.

Cam 1: Y cam syniad

Os yw eich prosiect yn gymwys, yna byddwn yn anfon ffurflen fer atoch chi er mwyn i chi ddweud rhagor am eich syniad.

Cam 2: Y cais llawn

Os byddwn yn eich gwahodd i’r cam nesaf, byddwn yn anfon ffurflen gais fanylach atoch.

Gweler y cwestiynau sydd yn y ffurflen gais lawn.

Os ydych chi angen cymorth cyfathrebu

Os yw ymgeisio ar-lein yn anodd neu'n amhosibl, gallwn gynnig:

  • fersiwn Hawdd ei Ddeall o'r ffurflen gais a'r canllawiau
  • fersiwn PDF o'r ffurflen gais.

Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw anghenion cymorth cyfathrebu.

Yr hyn rydyn ni’n ei ofyn yn y ffurflen gais

Byddwn yn gofyn am:

  • beth fydd eich prosiect yn ei wneud
  • sut rydych chi'n cynnwys eich cymuned
  • sut y byddwch chi’n cyflawni’r gwaith
  • sut rydych chi wedi ystyried yr effaith amgylcheddol

Os ydych yn gwneud cais am gerbyd

Bydd angen i chi anfon y canlynol atom:

  • arfarniad opsiynau sy’n dangos eich bod wedi ystyried gwahanol opsiynau teithio
  • manylion am y cerbyd
  • cyllideb ar gyfer y cerbyd sy’n para tan i’r grant ddod i ben
  • 3 dyfynbris

Darllenwch ein canllawiau ar brynu cerbyd (PDF, 776 KB).

Os ydych chi’n gwneud cais am gostau tir, adeiladu neu waith adnewyddu

Os nad ydych chi’n berchen y tir neu’r adeilad, mae’n rhaid i chi:

  • feddu ar brydles am 5 mlynedd neu hwy, neu lythyr gan y perchennog yn dweud y byddwch yn cael un
  • gael caniatâd ysgrifenedig gan y perchennog neu'r landlord sy'n dweud eich bod yn cael gwneud gwaith

Dylech hefyd wirio p’un a fyddwch chi angen caniatâd cynllunio.

Rhaid i chi ddarllen a chwblhau ein canllawiau a rhestr wirio ar gyfer prosiectau cyfalaf (PDF, 666 KB) a’i uwchlwytho gyda’ch ffurflen gais.

Yr wybodaeth rydym ei hangen am eich sefydliad

Byddwn yn gofyn am:

  • enw cyfreithiol eich sefydliad a'i gyfeiriad, a pha fath o sefydliad ydyw
  • unrhyw rifau cofrestru (fel rhif elusen neu rif cwmni)
  • eich cyfrifon diweddaraf
  • eich amcangyfrifon 12 mis, os yw eich sefydliad yn llai na 15 mis oed

Gwiriwch y wybodaeth hon yn ofalus – gall camgymeriadau arafu eich cais.

Enwi 2 berson

Mae’n rhaid i chi roi manylion 2 o bobl o’ch sefydliad.

Rhaid iddynt:

  • fyw yn y DU
  • fod a chyfeiriadau e-bost gwahanol
  • beidio â bod yn perthyn

Byddwn yn gofyn am:

  • fanylion cyswllt llawn
  • cyfeiriadau cartref
  • dyddiadau geni

Dylai un person fod yn brif gyswllt ar gyfer eich cais.

Dylai'r person arall fod yn uwch aelod o'ch sefydliad, a fydd yn gyfrifol yn gyfreithiol am yr arian.

Gall perthyn olygu:

  • yn briod neu mewn partneriaeth sifil
  • mewn perthynas hirdymor neu’n byw gyda'i gilydd
  • yn perthyn drwy waed neu bartner
  • yn byw yn yr un cyfeiriad

Telerau ac amodau

Rhaid i chi ddarllen a chytuno i'n telerau ac amodau. telerau ac amodau

Os ydych chi’n gwneud cais am gostau tir, adeiladu, cerbyd neu waith adnewyddu, darllenwch y telerau ac amodau cyfalaf.

Beth sy'n digwydd ar ôl i chi wneud cais

Mae eich ffurflen gais ym mynd trwy nifer o gamau ar ôl i chi gyflwyno eich syniad.

Byddwn yn adolygu eich ffurflen syniadau

  • byddwn yn asesu eich syniad ac yn gwneud gwiriadau ar eich sefydliad a’ch prosiect
  • efallai y byddwn yn cysylltu â chi i gael rhagor o wybodaeth
  • byddwn yn rhoi gwybod i chi o fewn 6 wythnos os ydych yn cael eich gwahodd i gyflwyno cais llawn

Byddwn yn asesu eich cais llawn

  • unwaith rydych chi wedi anfon eich cais llawn atom, rydym yn anelu i wneud penderfyniad o fewn 16 wythnos
  • os nad ydych yn llwyddiannus, byddwn yn esbonio pam
  • os ydych chi’n llwyddiannus, byddwn yn anfon e-bost atoch gyda'r newyddion da

Byddwn yn cadarnhau eich grant

Bydd swyddog ariannu yn cysylltu â chi o fewn pythefnos i:

  • esbonio’r cytundeb grant
  • cyduno ar ddyddiad dechrau
  • esbonio sut y byddwn yn talu’r grant

Dechrau eich prosiect

Gallwch ddechrau eich prosiect unwaith y byddwch chi wedi cytuno i'r contract. Mae'n rhaid i chi ddechrau eich prosiect o fewn 6 mis o dderbyn e-bost gyda'ch llythyr cynnig

Dylech wario'r arian yn y ffordd y gwnaethoch chi ddweud y byddech chi’n ei wario yn eich cais, oni bai ein bod wedi cytuno i newidiadau. Efallai y byddwn yn gwirio gyda chi o bryd i'w gilydd wrth i’r prosiect fynd rhagddo.

Darllenwch ragor am sut i reoli eich grant.

Dweud wrth eich cymuned

Rhowch wybod i bobl am eich grant a'ch gwaith. Mae’n ffordd wych o sicrhau ei bod nhw’n cymryd rhan.

Bydd eich e-bost dyfarnu hefyd yn cynnwys manylion ar sut i roi cyhoeddusrwydd i'ch prosiect. Gallwch hefyd ddarllen rhagor am sut i rannu eich stori.

Sut rydyn ni'n defnyddio eich data

I ddarganfod sut rydym ni’n defnyddio eich gwybodaeth bersonol, darllenwch ein datganiad diogelu data.