Sut i ymgeisio
Cysylltwch â ni a byddwn yn trefnu sgwrs gychwynnol
Cysylltwch â ni drwy e-bost ar climateactionfund@tnlcommunityfund.org.uk a chynnwys:
- manylion cyswllt y prif berson – enw llawn, cyfeiriad e-bost a rhif ffôn
- enw’r mudiad
Byddwn yn trefnu amser i siarad â chi am eich syniad prosiect. A gallwn roi gwybod i chi a yw'r ariannu hwn yn debygol o fod yn addas i chi.
Ymgeisio ar-lein
Gallwch weld yr holl gwestiynau yn y ffurflen cyn i chi wneud cais.
Os oes angen cymorth arnoch gyda'ch cais
Os na allwch chi neu fudiad partner lenwi'r ffurflen ar-lein, gallwn gynnig gwahanol ffyrdd o ddweud wrthym am eich prosiect.
Gallwch gysylltu â ni os oes angen cymorth cyfathrebu arnoch.
Faint gallwch chi ymgeisio amdano
Gallwch wneud cais am isafswm o £2.5 miliwn dros 3 blynedd.
Bydd y rhan fwyaf o'r prosiectau a ariannwn yn:
- derbyn rhwng £3 miliwn ac £5 miliwn
- rhedeg am rhwng 5 a 7 blynedd
Rydym yn disgwyl ariannu hyd at 10 prosiect yn y flwyddyn gyntaf.
Pa mor hir mae'n ei gymryd i gael ariannu
Gallai gymryd hyd at 9 mis i gael ariannu.
Mae 2 gam i'n proses ymgeisio. Gall gymryd:
- hyd at 4 mis i gael eich penderfyniad yn y cam cyntaf, o'r adeg y byddwch yn cyflwyno eich cais
- hyd at 5 mis i anfon gwybodaeth ychwanegol atom a chael eich penderfyniad yn yr ail gam
Byddwn yn trafod yr amseriadau ar gyfer eich cais os byddwn yn ei symud i'r ail gam.
Beth i'w gynnwys yn eich cais
Yn y ffurflen gais, byddwn yn gofyn i chi:
- beth ydych chi eisiau ei wneud a pham
- sut mae eich syniad yn bodloni ein hamcanion ariannu
- sut fyddwch chi'n bodloni ein meini prawf ariannu
- beth rydych chi'n gobeithio ei ddysgu a pha effaith fydd eich dysgu yn ei gael
Beth sy'n digwydd ar ôl i chi wneud cais
Byddwn yn adolygu eich cais.
Efallai y byddwn yn cysylltu â chi i siarad am eich prosiect, neu i gael rhagor o wybodaeth.
Ein nod yw rhoi gwybod i chi o fewn 4 mis os ydym am fynd â'ch cais i'r ail gam.
Byddwn yn rhoi gwybod i chi os ydych chi'n symud ymlaen i'r ail gam. Os nad ydych chi'n llwyddiannus, byddwn yn egluro pam. Os ydych chi'n llwyddiannus, byddwn yn anfon e-bost atoch i ofyn am wybodaeth fanylach am eich prosiect.
Byddwch yn anfon rhagor o wybodaeth atom
Ar y cam hwn, byddwn yn gofyn am bethau fel gwybodaeth ariannol a chynnig prosiect mwy manwl. Byddwn hefyd yn cwblhau rhai gwiriadau. Bydd un o'n tîm yn adolygu'r hyn a anfonwch ac yn cysylltu i ddysgu mwy am eich cynlluniau. Gall hyn gynnwys galwadau ffôn, sgyrsiau e-bost neu wyneb yn wyneb.
Byddwn yn gwneud penderfyniad terfynol
Byddwn yn rhoi gwybod i chi a ydym yn mynd i ariannu eich cais ai peidio. Os na, byddwn yn rhoi adborth i chi yn egluro pam.
Os bydd ariannu yn cael ei dyfarnu i chi
Byddwn yn eich helpu i wneud y gorau o'ch grant. Mae hyn yn cynnwys:
- dathlu eich llwyddiant
- rhannu'r hyn rydych chi'n ei ddysgu gydag eraill
- eich helpu i gysylltu â phrosiectau eraill a ariennir
Darllenwch am yr hyn sy'n digwydd pan fydd ariannu yn cael ei dyfarnu i chi.
Cytuno â'n telerau ac amodau
Rhaid i chi ddarllen a chytuno â'n telerau ac amodau cyn cyflwyno'ch cais.
Rydym am fod yn onest ynglŷn â'n terfynau ariannu
Dim ond swm cyfyngedig o ariannu sydd gennym, ac rydym yn cael llawer o geisiadau cryf. Mae hynny'n golygu bod yn rhaid i ni ddweud na weithiau, hyd yn oed i brosiectau addawol sy'n bodloni ein meini prawf ac sydd â photensial cryf.