Neidio i'r prif gynnwys

Croeso i’n gwefan newydd. Efallai y byddwch yn gweld rhai tudalennau o’n hen wefan wrth i ni symud pethau draw.

Pwy all ymgeisio

Rhaid i chi wneud cais fel rhan o bartneriaeth

Rhaid i bob mudiad yn eich partneriaeth fod yn: 

  • elusen gofrestredig
  • cwmni cyfyngedig drwy warant (gyda chymal nid-er-elw neu wedi'i gofrestru fel elusen)
  • cwmni buddiant cymunedol (CIC)
  • mudiad elusennol corfforedig (CIO)
  • mudiad elusennol corfforedig yn yr Alban (SCIO)
  • cymdeithasbuddcymunedol
  • cymdeithasgydweithredol(gyda chymal nid-er-elw ac wedi’i gofrestru gyda’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol)
  • corff cyhoeddus (megis awdurdod lleol, cyngor tref, plwyf neu gymuned)
  • ysgol, coleg neu brifysgol - cyn belled â bod y prosiect o fudd i'r gymuned leol ehangach 

Os oes angen clo asedau ar eich mudiad

Rhaid i rai mudiadau gael clo asedau. Mae hyn yn golygu bod gennych reolau sy'n atal eich asedau rhag cael eu gwerthu neu eu defnyddio er budd preifat. 

Rhaid i chi gael clo asedau os ydych chi'n: 

  • CIC
  • cwmni cyfyngedig trwy warant sydd ddim yn elusen gofrestredig
  • cymdeithasbuddcymunedol
  • cymdeithas gydweithredol 

Gallwch ddarllen mwy yng nghanllaw’r llywodraeth i gloeon asedau ar gyfer CICs.

Pwy ddylai fod yn eich partneriaeth

Gall eich partneriaeth fod: 

  • yn lleol, rhanbarthol neu genedlaethol
  • wedi'i leoli yn un o wledydd y DU, neu'n gweithio mewn mwy nag un wlad yn y DU
  • yn newydd neu eisoes wedi'i sefydlu 

Rydym am ariannu partneriaethau sy'n: 

  • cynnwys y cymunedau y maent yn gweithio gyda nhw yn y broses o ddylunio a chyflawni'r prosiect
  • sicrhau mynediad teg at ariannu ac adnoddau'r prosiect
  • ystyried adeiladu capasiti a llywodraethu da
  • rhannu'r hyn rydych chi'n ei ddysgu ar draws y sector a gyda phrosiectau eraill rydyn ni'n eu hariannu
  • gweithio ar draws gwahanol sectorau
  • cynnwys arbenigedd mewn meysydd fel systemau bwyd ac agroecoleg, hinsawdd, amgylchedd, natur, cyfathrebu, dysgu a gwerthuso, a chynrychiolaeth gymunedol 

Ni fyddwn yn ariannu mudiadau sy'n gwneud elw

Er enghraifft, mudiad a all rannu elw yn breifat. 
 
Rydym yn croesawu partneriaethau sy'n cynnwys partneriaid yn y sector preifat sy'n darparu arian cyfatebol neu gefnogaeth pro bono. 

Dylai'r gefnogaeth hon gryfhau eich prosiect a helpu i gynyddu ei effaith. 

Os oes gennych chi ariannu gennym ni eisoes

Gallwch dal i wneud cais. Byddwn yn edrych ar sut y byddai'r ariannu hwn yn gweithio ochr yn ochr â'ch ariannu arall pan fyddwn yn asesu'ch cais. 

Os ydych chi'n ysgol neu'n gweithio gydag ysgol

  • Rhaid i'ch prosiect fod o fudd i'r gymuned ehangach, nid athrawon, disgyblion neu rieni yn unig. 

Nid ydym fel arfer yn ariannu gweithgareddau ysgol sydd: 

  • yn gwella cyfleusterau neu offer ysgol
  • yn cefnogi hyfforddiant staff
  • yn rhan o'r cwricwlwm
  • yn rhywbeth y disgwylir i'r ysgol ei gyflawni beth bynnag (megis addysgu pynciau craidd)
  • yn digwydd yn ystod oriau ysgol (gall fod yn iawn cyn neu ar ôl ysgol, neu yn ystod amser cinio) 

Gofynion aelodau'r bwrdd neu'r pwyllgor

I wneud cais, rhaid i'ch mudiad gael o leiaf 2 aelod o'r bwrdd neu'r pwyllgor nad ydynt yn perthyn. Os ydych chi'n gwmni, rhaid i chi gael o leiaf 2 gyfarwyddwr nad ydynt yn perthyn. 

Rydym yn ystyried bod pobl yn perthyn os ydynt: 

  • yn briod neu mewn partneriaeth sifil
  • mewn perthynas hirdymor neu'n byw gyda'i gilydd
  • yn perthyn drwy waed neu drwy bartner