Ein hamcanion ariannu
Er mwyn cael eich ystyried ar gyfer ariannu, rhaid i'ch prosiect fodloni un o'r amcanion a restrir ar y dudalen hon a'r holl feini prawf ar y dudalen nesaf.
Amcanion ariannu
Rhaid i chi fodloni un neu fwy o'n hamcanion
Rhaid i'ch prosiect weithio tuag at newid systemau o ran y canlynol:
- mae mudiadau cymunedol yn tyfu ac yn cynhyrchu bwyd – gan ddefnyddio dulliau agroecolegol
- mae bwyd yn cael ei ddosbarthu – gan anelu at fynediad cyfartal at fwyd iach a fforddiadwy i bawb
- opsiynau bwyd i bobl a chymunedau – yn enwedig y rhai sy'n profi tlodi, anfantais neu wahaniaethu
Beth rydym yn ei olygu wrth newid systemau
Rydym am ariannu gwaith sy'n arwain at newid trawsnewidiol. Y math sy'n para, nid dim ond cefnogaeth tymor byr.
Mae ffyrdd o wneud hyn yn cynnwys:
- mynd i'r afael ag achos sylfaenol problemau hir dymor, nid dim ond y symptomau
- helpu i atal problemau cyn iddynt ddigwydd
- newid rheolau, arferion neu ffyrdd o weithio
- rhoi mwy o reolaeth i gymunedau dros benderfyniadau ac adnoddau
- helpu pobl a mudiadau i weithio gyda'i gilydd mewn modd gwahanol
- herio'r hyn a welir yn bwysig neu'n bosibl
- datblygu prosiect y gellir ei gynyddu mewn maint neu a allai weithio yn rhywle arall
Gwella sut mae mudiadau cymunedol yn tyfu ac yn cynhyrchu bwyd - gan ddefnyddio dulliau agroecolegol
Gyda mudiadau cymunedol, rydym yn golygu:
- grwpiau sy'n eiddo i'r gymuned
- cydweithfeydd
- mentrau cymdeithasol
- unrhyw fathau eraill o fudiadau nid-er-elw
Gydag agroecoleg, rydym yn golygu:
- gweithio gyda natur i greu systemau bwyd gwydn, cynaliadwy a theg
Mwy am agroecoleg ar wefan Sefydliad Bwyd ac Amaethyddiaeth y Cenhedloedd Unedig.
Mynediad teg at fwyd iach a maethlon i bawb
Dyma le gall pawb gael bwyd iach a maethlon, ni waeth pwy ydyn nhw na ble maen nhw'n byw.
Gallai eich prosiect ganolbwyntio ar:
- gwneud systemau bwyd yn fwy gwydn drwy wella mynediad at dir, cyfleusterau ac adnoddau
- rhoi mwy o reolaeth i gymunedau lleol dros fwyd i wella mynediad at opsiynau iach a fforddiadwy
- creu mannau bwyd a gweithgareddau sy'n eiddo i'r gymuned y mae pobl eisiau cymryd rhan ynddynt
Gallai hyn gynnwys cefnogi rhwydweithiau sy'n helpu cymunedau i ddylanwadu ar newid. Neu gysylltu prosiectau lleol presennol.
Cynnig opsiynau bwyd gwahanol i bobl a chymunedau
Yn enwedig y rhai sy'n profi tlodi, anfantais neu wahaniaethu.
Gallai hyn gynnwys:
- lleihau eu dibyniaeth ar ailddosbarthu bwyd dros ben
- gwella mannau a gwasanaethau bwyd cymunedol. Megis manwerthu, arlwyo, tyfu bwyd, ceginau cymunedol, caffis a mannau bwyta cyhoeddus
Gallai prosiectau hefyd ganolbwyntio ar:
- hyrwyddo arferion bwyd cynaliadwy a thymhorol
- annog dysgu gydol oes am fwyd
- atal argyfyngau bwyd cyn iddynt ddigwydd