Neidio i'r prif gynnwys

Croeso i’n gwefan newydd. Efallai y byddwch yn gweld rhai tudalennau o’n hen wefan wrth i ni symud pethau draw.

Meini prawf y mae'n rhaid i'ch prosiect eu bodloni

Er mwyn cael eich ystyried ar gyfer ariannu, rhaid i'ch prosiect fodloni'r holl feini prawf.

Meini prawf y mae'n rhaid i'ch prosiect eu bodloni

Rhaid i chi ddangos i ni y byddwch:

  • yn gweithio mewn partneriaeth
  • yn gwneud effaith barhaol ar newid hinsawdd, yr amgylchedd a natur
  • yn cynyddu mynediad at fwyd iach a fforddiadwy yn sylweddol – yn enwedig i’r rhai sy’n profi tlodi, anfantais neu wahaniaethu
  • yn meddu ar gynlluniau cadarn i fesur effaith eich gwaith
  • yn meddu ar gynlluniau cadarn i adrodd stori eich prosiect i ysbrydoli eraill
  • yn dangos sut y byddwch yn cynnwys cymunedau a mudiadau sy'n cynrychioli cymunedau yn eich prosiect mewn ffordd ystyrlon

Gweithio mewn partneriaeth

Rhaid i chi weithio mewn partneriaeth ffurfiol sy'n cynnwys mudiadau â gwahanol feysydd arbenigedd.

Byddwch yn rhannu rolau, cyfrifoldebau ac ariannu i gyflawni'r prosiect.

Gwneud effaith barhaol ar newid hinsawdd a natur

Rydym am ddeall y gwahaniaeth y bydd eich prosiect yn ei wneud i'r canlynol:

  • yr hinsawdd
  • yr amgylchedd
  • natur
  • y system fwyd
  • y gymuned rydych chi'n gweithio ynddi

Cefnogi pobl sy'n profi tlodi, anfantais neu wahaniaethu

Dylai eich prosiect anelu at wneud pethau'n decach i'r grwpiau hyn. Weithiau gelwir hyn yn gwella ecwiti.

Mesur effaith eich gwaith

Pan fyddwch chi'n gwneud cais, dywedwch wrthym sut y byddwch chi'n datblygu cynllun dysgu a gwerthuso ar gyfer eich prosiect.

Os cewch eich ariannu, byddwn yn gofyn i chi:

  • fesur y gwahaniaeth y mae eich prosiect yn ei wneud – i'r hinsawdd, yr amgylchedd, natur, systemau bwyd a'r gymuned rydych chi'n gweithio ynddi
  • rhannu'r hyn rydych chi'n ei ddysgu ar draws y sector a gyda phrosiectau eraill rydyn ni'n eu hariannu

Rydyn ni'n gwybod y gall y gwaith hwn fod yn heriol, a gall cynlluniau newid. Byddwn ni'n cytuno ar yr hyn sy'n realistig ac yn ymarferol. Gallwch chi gynnwys costau dysgu a gwerthuso yn eich cyllideb, gan gynnwys cefnogaeth allanol, os oes angen.

Adrodd stori eich prosiect

Rydyn ni eisiau deall sut y byddwch chi'n adrodd stori eich prosiect i ysbrydoli eraill.

Dywedwch wrthym sut y bydd eich partneriaeth yn cael ei chefnogi gan arbenigedd mewn cyfathrebu, allgymorth ac ymgysylltu.

Dangos sut y byddwch yn cynnwys cymunedau

A mudiadau sy'n cynrychioli cymunedau yn eich prosiect.

Beth yw ystyr 'cymunedau'

Pan rydyn ni'n dweud 'cymunedau', rydym yn golygu grwpiau o bobl sydd naill ai:

  • yn byw yn yr un ardal
  • yn rhannu hunaniaeth, diddordeb neu brofiad cyffredin

Mae'n iawn i'ch prosiect newid dros amser

Rydyn ni'n gwybod y gall prosiectau esblygu, ac rydyn ni'n gyfforddus gyda rhywfaint o ansicrwydd. Byddwn ni'n hyblyg ac yn eich cefnogi i barhau i ddiwallu anghenion eich prosiect a'ch cymuned.

Beth arall rydyn ni'n disgwyl i chi ei wneud

Cydraddoldeb, ecwiti, amrywiaeth a chynhwysiant

Rydym yn disgwyl i'r mudiadau a'r prosiectau a ariannwn:

  • fod yn agored ac yn hygyrch
  • hyrwyddo cydraddoldeb
  • herio gwahaniaethu

Efallai y byddwn yn gofyn am weld eich polisi cydraddoldeb fel rhan o'n hasesiad. Darllenwch fwy am ein hegwyddorion cydraddoldeb.

Ystyried eich effaith amgylcheddol

Rydym am ariannu prosiectau sy'n ystyried eu heffaith amgylcheddol.

Dylech:

Os byddwch chi'n gweithio gyda phlant, pobl ifanc neu oedolion agored i niwed

Mae angen i chi gael polisi ar waith sy'n egluro sut y byddant yn ddiogel. Os cewch eich ariannu bydd angen i chi ddilyn ein disgwyliadau ar ddiogelu plant ac oedolion mewn perygl.

Mae gan wefan NCVO gyngor ar ddiogelu a gwasanaethau gwybodaeth.

Rhedeg eich prosiect yn y Gymraeg a'r Saesneg

Rhaid i brosiectau yng Nghymru fod yn ddwyieithog. Mae hyn yn golygu y dylai pobl allu ymgysylltu â'ch prosiect yn y Gymraeg a'r Saesneg.

I'ch helpu i wneud hyn, dylech:

Gallwch gynnwys cost gwasanaethau dwyieithog yn eich cyllideb, fel cyfieithu deunyddiau hyrwyddo. Am ragor o gymorth, cysylltwch â'n tîm iaith Gymraeg yn: cymorthcymraeg@cronfaloterifawr.org.uk.