Ar beth gallwch chi wario'r arian
Yr hyn y gallwn ei ariannu
Gallwch wneud cais am ariannu i dalu am bethau fel:
costau staff, gan gynnwys gweithwyr sesiynol
costau sy'n eich helpu i gefnogi cymunedau a mudiadau partner llai
unrhyw beth sy'n cefnogi gweithio mewn partneriaeth effeithiol – fel costau cyfarfodydd partneriaeth, gweinyddiaeth a rheolaeth
datblygu sefydliadol megis hyfforddi staff, gwella llywodraethu, uwchraddio TG neu rannu dysgu
cludiant
cyfleustodau a chostau rhedeg
treuliau gwirfoddolwyr
dysgu a gwerthuso
cyfarpar
costau cyfieithu ysgrifenedig neu gyfieithu ar y pryd, er enghraifft i gyflwyno eich prosiect yn Gymraeg
cyfraniadau at gostau cyffredinol – er y dylai'r rhain fod yn gymesur â chais eich prosiect. Dysgu mwy am adfer costau llawn
rhai costau cyfalaf
Costau cyfalaf
Gallwn ariannu rhai costau cyfalaf, ond ni fyddwn yn ariannu prosiectau sydd ar gyfer costau cyfalaf yn unig.
Er enghraifft, efallai y byddwn yn ariannu prynu neu brydlesu tir, adfer tir ac ymchwiliadau tir sy'n cynyddu hygyrchedd. Byddwn hefyd yn talu costau offer a chyfarpar.
Mae'n annhebygol y byddwn yn ariannu costau cyfalaf ar gyfer adeiladau a'u hadfer, paneli solar na phwyntiau gwefru cerbydau trydan (EV).
Os yw eich prosiect yn cynnwys costau cyfalaf, dylech gysylltu â ni i gael rhagor o arweiniad.
Gweithgarwch gwleidyddol ac ymgyrchu
Gallwn ariannu rhywfaint o weithgarwch gwleidyddol ac ymgyrchu. Ond dim ond os:
nad yw'r gweithgaredd yn wleidyddol. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid iddo ymwneud â pholisi, arfer neu ddeddfwriaeth yn hytrach na gwrthwynebu neu gefnogi plaid wleidyddol.
bwriad y gweithgaredd yw helpu achos eich sefydliad a bod o fudd i'r cyhoedd neu gymdeithas.
Ni fyddwn yn ariannu prosiectau lle mae gweithgareddau gwleidyddol yn brif bwrpas. Ond gallwn ariannu prosiectau sy'n ymwneud yn bennaf ag ymgyrchu.
Yr hyn na allwn ei ariannu
Ni fyddwn yn ariannu:
prosiectau lle mae ariannu yn mynd i un mudiad
gweithgareddau statudol
gweithgareddau sy'n disodli ariannu gan y llywodraeth
prosiectau cyfalaf sy'n gysylltiedig ag adnewyddu adeiladau, ôl-osod neu gynhyrchu ynni – fel gosod paneli solar
prosiectau cyfalaf yn unig
benthyciadau, gwaddolion neu log
talu rhywun arall i ysgrifennu'ch cais
gweithgareddau lle bydd elw yn cael ei ddosbarthu er elw preifat
gweithgareddau codi arian
TAW adferadwy
alcohol
pethau yr ydych wedi gwario arian arnynt yn y gorffennol ac yn edrych i'w hawlio nawr (costau ôl-weithredol)
eitemau a fydd o fudd i unigolyn yn unig, yn hytrach na’r gymuned ehangach
gweithgareddau crefyddol (er y gallwn ariannu mudiadau crefyddol os yw eu prosiect o fudd i'r gymuned ehangach ac nid yw'n ymwneud â chynnwys crefyddol)
Yr hyn sy'n annhebygol y byddwn yn ei ariannu
Mae'n annhebygol y byddwn yn ariannu prosiectau sydd:
yn brosiectau un safle fel gerddi cymunedol neu randiroedd
dim ond yn darparu gwasanaethau fel banciau bwyd neu ailddosbarthu bwyd dros ben
yn methu dangos sut maen nhw'n mabwysiadu dull newid systemau hir dymor
yn buddio unigolyn – er enghraifft, fferm fasnachol unigol sy'n canolbwyntio ar wneud elw
yn cynnwys gwaith y dylai Llywodraeth leol neu genedlaethol ei ariannu
yn cynnwys gweithgareddau plaid wleidyddol neu waith sy'n anelu at ddylanwadu ar etholiadau
yn hyrwyddo barn neu agenda un mudiad neu grŵp
yn methu dangos sut y bydd eu gwaith yn effeithio'n gadarnhaol ar yr hinsawdd, natur na'r amgylchedd
Ymrwymiadau rheoli cymorthdaliadau'r DU
Mae ein grantiau yn arian cyhoeddus. Os ydym yn eich ariannu, bydd angen i chi gydymffurfio ag ymrwymiadau rheoli cymorthdaliadau'r DU.
Gweler arweiniad Llywodraeth y DU ar reoli cymorthdaliadau. Rydym yn argymell ceisio cyngor cyfreithiol os ydych yn ansicr.