Sut i ymgeisio
Dechreuwch trwy gysylltu â ni
Cysylltwch â ni am sgwrs am eich syniad.
Gallwch:
- e-bostio meithrinnatur@cronfagymunedolylg.org.uk, neu
- ffonio 0300 123 0735 (ar agor o 9am i 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener)
Byddwn yn eich rhoi mewn cyswllt â swyddog ariannu yn eich ardal chi o fewn 5 diwrnod i chi gysylltu â ni.
Cam 1
Mae dau gam i’r broses ymgeisio. Os ydych chi’n addas i wneud cais, byddwn yn gofyn i chi ddweud wrthym am:
Eich syniad
Dywedwch wrthym:
- enw eich prosiect
- lleoliad y prosiect
- faint o arian rydych chi ei angen
- ar gyfer beth y byddwch yn defnyddio’r arian
- pwy fyddwch yn gweithio gyda nhw
- y math o weithgareddau y byddech yn eu cynnal i gefnogi partneriaethau a ariennir gan Meithrin Natur
Eich profiad
Dywedwch wrthym am eich gwaith gyda:
- phlant dan bum mlwydd oed
- natur a’r amgylchedd
- iechyd a lles
- arferion diogelu, yn benodol ar gyfer plant dan bum mlwydd oed
Rydym eisiau gwybod am y gwaith rydych chi wedi ei wneud yn y meysydd hyn ledled Cymru.
Dywedwch wrthym am eich profiad o helpu sefydliadau gyda:
- meithrin capasiti. Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn esiamplau o brosiectau tebyg rydych chi wedi eu cynnal gyda sefydliadau blynyddoedd cynnar, amgylcheddol neu iechyd a lles
- cyd-gynhyrchu gyda phlant dan bum mlwydd oed a’u gofalwyr
- dylunio a gofalu am fannau awyr agored sydd o fudd i bobl a natur
- gwerthuso a rhannu eu dysgu
- gweithio mewn partneriaeth
- gweithio’n ddwyieithog yn y Gymraeg a’r Saesneg
- gweithio ledled Cymru
Eich sefydliad
Dywedwch wrthym:
- enw eich sefydliad
- cyfeiriad eich sefydliad
- y math o sefydliad ydyw
- pa sgiliau a phrofiad sydd gan eich sefydliad i gyflawni’r gwaith hwn
Byddwn yn rhoi gwybod i chi os ydym am fynd a’ch cais ymlaen i’r cam nesaf ymhen pythefnos o gysylltu â ni.
Cam 2
Os ydych chi’n llwyddiannus, byddwn yn gofyn am ddogfennau am eich prosiect. Bydd angen i chi gyflwyno eich cais terfynol erbyn 30 Hydref 2025.
Byddwn yn gwneud ein penderfyniad terfynol yn fuan yn 2026.
Byddwn yn rhoi gwybod i chi os ydym am ariannu eich prosiect neu beidio. Os and ydych chi’n llwyddiannus, byddwn yn dweud wrthych beth sydd angen i chi ei wneud nesaf.
Os ydych chi angen cymorth i gyfathrebu
Os yw'n anodd neu'n amhosibl i chi lenwi ffurflen gais ar-lein, rhowch wybod. Gallwn gynnig ffyrdd eraill o ymgeisio, fel ffurflenni sy’n gweithio all-lein.
Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw anghenion cymorth cyfathrebu.