Yr hyn yr ydym eisiau ei ariannu
Byddwch yn helpu sefydliadau eraill gyda:
- meithrin capasiti
- cyd-gynhyrchu gyda phlant dan 5 mlwydd oed a’u gofalwyr
- dylunio mannau awyr agored sydd o fudd i bobl a natur a gofalu amdanynt
- gwerthuso a dysgu
Gweithio gyda rhanddeiliaid
Er mwyn helpu sefydliadau a ariennir gan Meithrin Natur i gyflawni eu prosiectau’n dda, bydd angen i chi:
- ddeall sut mae natur yn gwella iechyd a lles plant dan bum mlwydd oed
- meithrin perthnasoedd cryf â nhw a chytuno ar y ffyrdd gorau o gydweithio
- cyfathrebu’n dda â chynulleidfaoedd gwahanol
- cefnogi eu prosiectau, o gynllunio i ddatblygu a chyflawni
- bod yn hyblyg ac yn gallu ymateb i’w hanghenion sy’n newid
- gweithio’n agos gyda ni er mwyn sicrhau fod prosiectau’n cyrraedd eu nodau, yn brydlon ac o fewn y gyllideb
Meithrin capasiti
I feithrin capasiti yn y sefydliadau a ariennir trwy Meithrin Natur mae’n rhaid i chi:
- rannu dulliau a fydd y neu helpu i redeg eu prosiectau
- creu canllawiau ac adnoddau
- meithrin hyder a sgiliau
Rhannu dulliau a fydd yn helpu sefydliadau i redeg eu prosiectau
Byddwn yn disgwyl i chi helpu sefydliadau i ddiffinio a mesur cysylltu â natur. Er enghraifft, gyda chanllawiau neu fframweithiau ar gysylltiad â natur, iechyd meddwl a lles.
Creu canllawiau ac adnoddau
Bydd angen i chi greu canllawiau ac adnoddau i helpu sefydliadau i redeg eu prosiectau. Gall hyn gynnwys gwybodaeth am:
- ddatblygiad plant. Yn benodol, gweithio gyda phlant dan bum mlwydd oed. A gyda’u teuluoedd neu ofalwyr.
- natur a’r amgylchedd
- iechyd a lles
Meithrin hyder a sgiliau
Mae’n rhaid i chi gefnogi sefydliadau i gyflawni eu prosiectau’n llwyddiannus. A’u helpu i ymdrin â heriau newydd.
Cyd-gynhyrchu
Rhaid i chi helpu sefydliadau i:
- ddefnyddio cyd-gynhyrchu gyda phlant dan bum mlwydd oed a’u gofalwyr
- gweithio mewn partneriaeth
- defnyddio adnoddau cyd-gynhyrchu
Helpu sefydliadau i gyd-gynhyrchu. Byddwch yn helpu’r sefydliadau i gydweithio gyda’r bobl y maen nhw’n eu cefnogi. Dylai cyd-gynhyrchu ddigwydd trwy gydol eu prosiect, gan gynnwys pan maent yn cynllunio, datblygu a chyflawni’r prosiect. Efallai y byddwch y neu helpu i wneud hyn trwy hyfforddiant neu fentora.
Cefnogi gweithio mewn partneriaeth
Byddwch yn rhoi arweiniad ac arfer gorau ar sut y gallen nhw weithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill.
Rhannu adnoddau cyd-gynhyrchu ar gyfer pant dan bum mlwydd oed
Byddwch yn cefnogi sefydliadau i ddefnyddio cyd-gynhyrchu yn eu prosiectau. Yn ogystal ag adeiladu ar eu gwybodaeth eu hunain o gyd-gynhyrchu. Mae hyn yn golygu eu helpu nhw i ddylunio prosiectau gyda’r plant a gofalwyr y maen nhw’n eu cefnogi. Er enghraifft, gallech chi rannu cyngor, technegau neu ddulliau.
Gwerthuso a dysgu
Byddwn yn disgwyl i chi gefnogi sefydliadau i werthuso eu prosiectau. Rhaid i chi ddangos iddynt sut i:
- gynllunio neu gomisiynu gwerthusiad i gael tystiolaeth ddefnyddio sy’n cefnogi nodau eu prosiect
- defnyddio a rhannu’r hyn maen nhw wedi ei ddysgu
Bydd angen i chi rannu arferion ymchwil diogel a moesegol gyda’r sefydliadau hyn. A byddwn yn disgwyl i chi ddilyn GDPR.
Er enghraifft, efallai y byddwch yn helpu i gyflawni’r amcanion hyn trwy eu helpu nhw i:
- fesur y cysylltiad â byd natur y mae rhywun yn ei deimlo
- creu allbynnau neu ddangosyddion
- gwneud cynlluniau gwerthuso
Byddwch yn rhannu’r dysgu o’r holl brosiectau gyda’r sefydliadau a’r Gronfa.
Gweithio gydag oedolion sy’n wynebu risg, plant a phobl ifanc
Mae angen i chi gael polisi ar waith sy'n egluro sut y byddant yn ddiogel. Os cewch grant bydd angen i chi ddilyn ein disgwyliadau ar ddiogelu.
Mae gan wefan yr NCVO wasanaethau cyngor a gwybodaeth am ddiogelu plant.
Cyflwyno eich prosiect yn y Gymraeg a’r Saesneg
Mae’n rhaid i brosiectau yng Nghymru fod yn ddwyieithog. Mae hyn yn golygu y dylai pobl allu ymgysylltu â’ch prosiect yn y Gymraeg a’r Saesneg.
I’ch helpu chi i wneud hyn, dylech:
- ddarllen ein canllawiau ar sut i reoli prosiectau dwyieithog (PDF, 128KB)
- darllen am ein safonau iaith Gymraeg
- ymgynghori â chymunedau Cymraeg wrth gynllunio eich prosiect
Gallwch gynnwys cost gwasanaethau dwyieithog yn eich cyllideb, er enghraifft cost cyfieithu deunyddiau hyrwyddo.
Am ragor o gefnogaeth, cysylltwch â thîm y Gymraeg ar: cymorth.cymraeg@cronfagymunedolylg.org.uk
Ystyried eich effaith amgylcheddol
Rydym am ariannu sefydliadau sy'n ystyried eu heffaith ar yr amgylchedd
Yn eich ffurflen gais, dywedwch wrthym sut bydd eich prosiect yn lleihau niwed i’r amgylchedd. Neu sut y bydd yn cael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd. Gallai hyn gynnwys lleihau teithio, gwastraff neu ddefnydd o ynni.
Dylech chi:
- wneud cynllun gweithredu amgylcheddol
- darllen ein canllawiau ar leihau eich ôl troed amgylcheddol
- ewch i gynaliadwyedd amgylcheddol am fewnwelediadau, astudiaethau achos a chyfleoedd ariannu.