Neidio i'r prif gynnwys

Croeso i’n gwefan newydd. Efallai y byddwch yn gweld rhai tudalennau o’n hen wefan wrth i ni symud pethau draw.

Yr hyn y byddwch ei angen i ymgeisio

Byddwn yn gofyn am:

  • enw cyfreithiol eich sefydliad
  • ei gyfeiriad
  • y math o sefydliad ydyw
  • unrhyw rifau cofrestru (er enghraifft, rhifau elusen neu gwmni)

Gwiriwch y manylion hyn yn ofalus. Gall gwybodaeth anghywir oedi eich cais.

Gwybodaeth am fanylion ariannol eich sefydliad

Byddwn yn gofyn am:

  • gopi o'ch cyfrifon diweddaraf
  • copi o'ch cyfrifon drafft, os yw eich cyfrifon yn hŷn na 10 mis
  • copi o'ch rhagamcanion 12 mis, os yw eich sefydliad yn llai na 15 mis oed
  • dyddiad gorffen eich cyfrifyddu
  • cyfanswm eich incwm am y flwyddyn

Gwybodaeth am eich tîm

Mae angen i chi ddweud wrthym am ddau o bobl yn eich sefydliad. Dylai un fod y prif gyswllt y byddwn yn gallu siarad â nhw ynglŷn â’r prosiect. Dylai’r llall fod yn berson uwch sy’n gyfrifol yn gyfreithiol am yr ariannu.

Byddwn yn gofyn am eu:

  • henwau
  • manylion cyswllt
  • cyfeiriadau cartref
  • dyddiadau geni

Mae’n rhaid iddynt:

  • gael cyfeiriadau e-bost ar wahân
  • fyw yn y DU
  • beidio a bod yn perthyn

Yr hyn rydyn ni’n ei olygu wrth berthyn

Rydym yn ystyried fod pobl yn perthyn os ydynt:

  • yn briod neu mewn partneriaeth sifil
  • mewn perthynas hirdymor neu’n byw gyda’i gilydd
  • yn perthyn trwy waed neu drwy bartner
  • yn byw yn yr un cyfeiriad

Byddwn yn gwirio’r wybodaeth a rowch i ni

Fel sefydliad sy’n dosbarthu arian cyhoeddus, byddwn yn gwirio’r wybodaeth a rowch i ni. Dysgwch ragor am y gwiriadau.

Cytuno i’n telerau ac amodau

Mae’n rhaid i chi ddarllen ein telerau ac amodau a chytuno iddynt cyn cyflwyno eich cais.

Sut rydym yn defnyddio eich data personol

I gael gwybod sut rydym yn defnyddio a storio eich data personol, darllenwch ein hysbysiad phreifatrwydd.