Beth allwch chi wario’r arian arno
Gallwn ariannu
Gallwn ariannu costau prosiect uniongyrchol, fel:
- costau rhedeg
- offer
- digwyddiadau untro
- costau staff
- hyfforddi
- cludiant
- treuliau gwirfoddolwyr
Gallwn hefyd ariannu rhai costau prosiect anuniongyrchol (gelwir y rhain weithiau yn gostau cyffredinol). Gallai hyn gynnwys:
- rhent neu yswiriant
- rhan o gyflog rhywun and ydynt yn gweithio’n uniongyrchol ar y prosiect, fel uwch reolwr neu weithiwr gweinyddol
Er enghraifft, os yw’r prosiect rydych yn gwneud cais amdano yn gyfystyr a hanner gwaith eich sefydliad, efallai y byddwn yn ariannu hanner eich costau cyffredinol. Weithiau gelwir hyn yn adferiad cost llawn. Dysgwch sut i gyfrifo costau cyffredinol yn ein canllaw i adferiad cost llawn.
Weithiau gelwir hyn yn adferiad cost llawn. Dysgwch sut i gyfrifo costau cyffredinol yn ein canllaw i adferiad cost llawn.
Gweithgareddau ac ymgyrchoedd gwleidyddol
Gallwn ariannu rhai gweithgareddau ac ymgyrchoedd gwleidyddol ond dim ond dan rai amgylchiadau.
Mae’n rhaid i’ch prosiect:
- beidio â bod ynglŷn â phlaid wleidyddol. Dylai ganolbwyntio ar bolisi, arfer neu ddeddfwriaeth yn hytrach na gwrthwynebu neu gefnogi plaid wleidyddol
- gefnogi diben eich sefydliad a bod o fudd i'r cyhoedd neu gymdeithas
Ni allwn ariannu
Ni allwn ariannu:
- costau ôl-weithredol (costau am bethau sydd eisoes wedi digwydd, neu rydych chi eisoes wedi talu amdanynt)
- alcohol
- costau wrth gefn, benthyciadau, gwaddolion neu log
- talu rhywun arall i ysgrifennu eich cais ar eich rhan
- gweithgareddau codi arian (lle rydych chi'n defnyddio ein harian i godi mwy o arian)
- treth ar werth (TAW) y gallwch ei hawlio'n ôl
- gweithgareddau crefyddol (gallwn ariannu sefydliadau crefyddol os yw eu prosiect o fudd i'r gymuned ehangach ac nad yw'n cynnwys cynnwys crefyddol)
- gweithgareddau y mae'n ofynnol yn gyfreithiol i gyrff statudol neu gyhoeddus eu gwneud
- gweithgareddau sy'n helpu plant neu bobl ifanc gyda'u gwaith ysgol yn ystod amser ysgol
- teithio dramor
- prosiectau sy'n digwydd y tu allan i'r DU
- gweithgareddau sy'n gwneud elw er budd preifat
- arian parod a fydd yn cael ei roi'n uniongyrchol i unigolion
Cael help gyda’ch ffurflen gais
Peidiwch â defnyddio busnesau preifat, ysgrifenwyr ceisiadau nac ymgynghorwyr i ysgrifennu eich cais. Ni fyddwn yn eu derbyn. Nid oes unrhyw un wedi ei awdurdodi i weithredu ar eich rhan neu hawlio eu bod yn gyflenwr dewisol.
- Os ydych chi’n ansicr ynglŷn ag unrhyw beth yn y ffurflen gais, cysylltwch â ni.
- Gallwch hefyd gael help gan sefydliadau cymorth yr ymddiriedir ynddynt, fel eich awdurdod lleol neu Gyngor Gwirfoddol Sirol (CVC). Gallant roi cymorth a chyngor i chi ar ysgrifennu eich cais.