Sut i wneud cais
Gallwch wneud cais gan ddefnyddio ein ffurflen ar-lein
Gallwch weld rhestr llawn o gwestiynau o'r ffurflen gais.
Os oes angen cymorth arnoch i wneud cais
Os na allwch gwblhau'r ffurflen ar-lein, gallwn gynnig gwahanol ffyrdd o ddweud wrthym am eich prosiect. Mae'r rhain yn cynnwys:
fersiwn hawdd ei ddarllen o'r ffurflen gais a'r canllawiau
fersiwn PDF o'r ffurflen gais
rhannu fideo sy'n disgrifio eich syniad prosiect, yn hytrach na'i ddisgrifio mewn geiriau
fersiwn Iaith Arwyddion Prydain (BSL) o'r ffurflen gais a'r canllawiau
Cysylltwch â ni os oes angen cymorth arnoch.
Gwnewch gais yn gynnar
Cyflwynwch eich cais o leiaf 12 wythnos cyn bod angen yr arian arnoch. Rydym yn derbyn mwy o geisiadau nag arfer, felly efallai y bydd yn cymryd mwy o amser i ymateb. Arhoswch am gymeradwyaeth cyn dechrau eich prosiect neu wario arian.
Beth sy'n digwydd ar ôl i chi wneud cais
Byddwn yn adolygu eich cais ac yn ymateb o fewn 12 wythnos.
Efallai y byddwn yn cysylltu â chi i drafod eich prosiect neu ofyn am fwy o fanylion.
Os bydd yn llwyddiannus, byddwn yn anfon e-bost atoch ac yn trosglwyddo'r arian i'ch cyfrif o fewn 14 diwrnod. Gallwch ddechrau eich prosiect cyn gynted ag y byddwch chi'n derbyn ein e-bost.
Efallai y byddwn yn cysylltu â chi i weld sut mae eich prosiect yn mynd.
Rhannwch eich stori. Rhowch wybod i'ch cymuned am eich grant a sut mae'n fuddiol iddynt. Bydd eich e-bost dyfarnu yn esbonio sut i roi cyhoeddusrwydd i'ch grant a chefnogi'ch cymuned. Dysgwch ragor am hyrwyddo'ch prosiect.
Telerau ac amodau
Pan fyddwch chi'n gwneud cais, bydd angen i chi ddarllen a chytuno â'n telerau ac amodau.
Sut rydym yn defnyddio'ch data personol
I ddarganfod sut rydym yn trin eich data personol, darllenwch ein diogelu data.
Lleihau eich effaith amgylcheddol
Mae'r amgylchedd yn bwysig i ni ac rydym yn annog prosiectau i'w ystyried yn yr un modd.
Mae yna ffyrdd syml o wneud eich prosiect neu ddigwyddiad yn fwy amgylcheddol gynaliadwy. Gallai hyn gynnwys defnyddio cyflenwyr lleol, lleihau gwastraff, neu leihau teithio. Gallai hefyd eich helpu i arbed arian.
Gallwch ddod o hyd i fwy o syniadau yn ein canllawiau ar leihau eich ôl-troed amgylcheddol.