Neidio i'r prif gynnwys

Croeso i’n gwefan newydd. Efallai y byddwch yn gweld rhai tudalennau o’n hen wefan wrth i ni symud pethau draw.

Pwy sy'n methu gwneud cais

Ni allwch wneud cais os oes gennych grant cyfredol

Ni fyddwn yn derbyn eich cais:

  • os oes gan eich sefydliad grant cyfredol gan Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol (o unrhyw wlad yn y DU) sydd heb ei orffen
  • os ydych chi'n aros am benderfyniad ar gais arall i'r rhaglen hon
  • os ydych chi'n gwneud cais i fwy nag un o'n rhaglenni ar gyfer yr un prosiect

Bydd angen i chi aros nes bod eich grant presennol wedi'i gwblhau, neu eich bod wedi cael penderfyniad ar eich cais arall.

Gallwch wneud cais eto os yw'ch prosiect blaenorol wedi gorffen a bod eich sefydliad wedi derbyn cyfanswm o lai na £20,000 o'r rhaglen hon yn ystod y 12 mis diwethaf. Yr uchafswm y gallwn ei ariannu mewn unrhyw gyfnod o 12 mis yw £20,000.

Sefydliadau nad ydym yn eu hariannu

Nid ydym yn derbyn ceisiadau gan:

  • unigolion neu unig fasnachwyr
  • sefydliadau sydd wedi'u lleoli y tu allan i'r DU
  • cwmnïau er elw (gan gynnwys Cwmnïau Cyfyngedig trwy Gyfranddaliadau)
  • sefydliadau sy'n gwneud cais ar ran sefydliad arall

Ceisiadau gan fusnesau preifat neu ymgynghorwyr

Nid ydym yn derbyn ceisiadau a ysgrifennwyd ar eich cyfer gan fusnesau preifat neu ymgynghorwyr.