Neidio i'r prif gynnwys

Croeso i’n gwefan newydd. Efallai y byddwch yn gweld rhai tudalennau o’n hen wefan wrth i ni symud pethau draw.

Ar beth y gallwch chi wario’r arian

Rydym yn ariannu amrywiaeth o gostau i helpu eich prosiect i lwyddo. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • cyfarpar
  • digwyddiadau untro – byddwn yn ariannu digwyddiad untro os yw'n rhan o brosiect ehangach sy'n helpu pobl i feithrin perthnasoedd cryfach dros amser
  • costau staff a hyfforddiant
  • trafnidiaeth a chyfleustodau
  • treuliau gwirfoddoli
  • cyfieithu a chostau eraill ar gyfer cyflawni eich prosiect yn Gymraeg a Saesneg
  • prosiectau tir neu adnewyddu bach

Rydym yn eich annog i feddwl am unrhyw gostau sy'n helpu eich sefydliad a'ch cymuned i ymdopi â'r argyfwng costau byw.

Yr hyn na allwn ei ariannu

Ni allwn ariannu:

  • costau rydych chi eisoes wedi talu amdanynt
  • alcohol
  • costau wrth gefn, benthyciadau, gwaddolion neu log
  • rhywun arall i ysgrifennu eich cais i chi
  • gweithgareddau sy'n gwneud elw neu'n codi arian
  • TAW y gallwch ei hawlio yn ôl
  • gweithgareddau crefyddol (gallwn ariannu sefydliadau crefyddol os yw'r prosiect o fudd i'r gymuned ehangach ac nad oes cynnwys crefyddol)
  • gwasanaethau neu weithgareddau statudol
  • cymorth gwaith ysgol yn ystod oriau ysgol
  • teithio tramor
  • prosiectau sy'n digwydd y tu allan i'r DU
  • gweithgareddau sy'n gwneud elw preifat
  • rhoi arian parod yn uniongyrchol i unigolion

Os nad ydych yn siŵr a oes modd ariannu rhywbeth, cysylltwch â ni, a byddwn yn eich cynghori.

Grantiau ar gyfer prosiectau tir neu adnewyddu

Os nad ydych chi'n berchen ar y tir neu'r adeilad, rhaid i chi:

  • gael prydles o bum mlynedd neu fwy, neu lythyr sy'n cadarnhau y byddwch yn cael un
  • gael caniatâd ysgrifenedig gan y perchennog neu'r landlord i wneud y gwaith

Gwiriwch a oes angen caniatâd cynllunio.