Neidio i'r prif gynnwys

Croeso i’n gwefan newydd. Efallai y byddwch yn gweld rhai tudalennau o’n hen wefan wrth i ni symud pethau draw.

Hyrwyddo eich prosiect

Llongyfarchiadau ar eich grant! Yn yr adran hon, fe welwch ganllawiau ar sut i:

  • ddweud wrthym am eich gwaith a ariennir
  • rhannu newyddion am eich grant
  • archebu deunyddiau brand am ddim ar gyfer eich lleoliad neu ddigwyddiadau
  • lawrlwytho a defnyddio ein logo

Bydd ein canllawiau yn eich helpu i adrodd eich stori. Byddant hefyd yn eich helpu i gydnabod chwaraewyr a manwerthwyr y Loteri Genedlaethol am wneud eich prosiect yn bosibl.

Dywedwch wrthym am eich gwaith a ariennir 

Hoffem glywed am y gwaith rydych chi'n ei wneud. Er enghraifft, gallech ddweud wrthym am:

  • ddigwyddiad rydych chi'n ei gynnal
  • stori ysbrydoledig
  • rhywbeth newydd neu greadigol rydych chi'n ei wneud

Gellid defnyddio eich stori yn:

  • ein hymgyrchoedd yn y dyfodol
  • ein cyfryngau cymdeithasol
  • manwerthwr lleol y Loteri Genedlaethol 

E-bostiwch eich stori a'ch lluniau i: shareyourstory@tnlcommunityfund.org.uk.