Pwy all wneud cais
Gallwch wneud cais os yw'ch sefydliad yn:
- sefydliad gwirfoddol neu gymunedol cyfansoddedig
- grŵp neu glwb cyfansoddedig
- elusen gofrestredig
- sefydliad corfforedig elusennol (CIO)
- cwmni nid-er-elw
- cwmni buddiannau cymunedol (CIC) cyfyngedig trwy warant neu gyfyngedig gan gyfranddaliadau (os yw'n gyfyngedig gan gyfranddaliadau, rhaid i chi ddilyn canllawiau’r Rheoleiddiwr Cwmnïau Buddiannau Cymunedol ar rannu elw)
- ysgol, os yw'r prosiect yn helpu'r gymuned leol, nid yr ysgol yn unig
- corff statudol (gan gynnwys awdurdodau lleol, cynghorau tref, plwyf a chymuned)
Eich incwm
Rydym yn awyddus i ariannu sefydliadau llai hefyd. Felly byddwn yn edrych ar eich incwm pan fyddwn yn gwneud penderfyniad.
Gofynion ar gyfer aelodau'r bwrdd neu'r pwyllgor
Rhaid i chi gael o leiaf dau gyfarwyddwr nad ydynt yn gysylltiedig.
Rydym yn ystyried pobl yn gysylltiedig os ydyn nhw:
- yn briod neu mewn partneriaeth sifil
- mewn perthynas hirdymor neu'n byw gyda'i gilydd
- yn rhan o'r un teulu
Ysgolion a sefydliadau sy'n gweithio gydag ysgol
Gallwn ariannu ysgolion neu sefydliadau sy'n gweithio gydag ysgolion os yw'ch prosiect yn amlwg o fudd i'r gymuned ehangach, nid disgyblion, athrawon neu rieni yn unig.
Hoffem ariannu prosiectau sy’n:
- dod â'r gymuned leol a'r ysgol at ei gilydd
- defnyddio mannau neu adnoddau ysgol ar gyfer gweithgareddau cymunedol y tu allan i oriau ysgol
- helpu pobl yn y gymuned ehangach i gysylltu, dysgu, neu gymryd rhan mewn rhywbeth ystyrlon
Rhaid i brosiectau fynd y tu hwnt i gyfrifoldebau arferol yr ysgol. Er enghraifft, ni allwn ariannu pethau fel:
- gweithgareddau sy'n seiliedig ar y cwricwlwm neu unrhyw beth a ddylai ddigwydd yn ystod y diwrnod ysgol
- gwelliannau i adeiladau ysgol, ardaloedd awyr agored, neu offer
- hyfforddiant i staff ysgol neu gymorth sy'n canolbwyntio ar addysg
- teithiau ysgol, clybiau ar ôl ysgol, neu amgylcheddau dysgu amgen
Os nad ydych yn siŵr a yw'ch syniad yn gymwys, mae'n well cysylltu â ni cyn gwneud cais.
Gweithgarwch gwleidyddol ac ymgyrchu
Rydym yn ariannu rhai gweithgareddau gwleidyddol, ond dim ond:
- os nad ydynt yn bleidyddol-wleidyddol
- os ydynt yn cefnogi achos eich sefydliad ac er budd y cyhoedd
Ni fyddwn yn ariannu prosiectau lle mai gweithgareddau gwleidyddol yw’r brif bwrpas.
Prosiectau chwaraeon, y celfyddydau neu dreftadaeth
Rydym yn ariannu prosiectau sy'n cryfhau cymunedau ac yn creu newid cadarnhaol.
Mae prosiectau sy'n seiliedig ar chwaraeon, y celfyddydau neu dreftadaeth yn gymwys os ydynt yn gwneud mwy na darparu'r gweithgaredd. Er enghraifft, grŵp dawns ar-lein i bobl ifanc sydd hefyd yn lleihau unigrwydd neu'n cefnogi iechyd meddwl.