Neidio i'r prif gynnwys

Croeso i’n gwefan newydd. Efallai y byddwch yn gweld rhai tudalennau o’n hen wefan wrth i ni symud pethau draw.

Sut i siarad am eich grant ar y cyfryngau cymdeithasol

Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn ffordd dda o rannu eich newyddion ariannu a dangos y gwaith rydych chi'n ei wneud. Gallwch ddefnyddio llwyfannau cyfryngau cymdeithasol fel:

  • Bluesky
  • Facebook
  • Instagram
  • LinkedIn

I sefydlu cyfrif cyfryngau cymdeithasol, dim ond cyfeiriad e-bost a chyfrinair sydd ei angen arnoch. Dylech ddewis rhywun i reoli eich cyfrifon cyfryngau cymdeithasol, fel y gallwch bostio gwybodaeth yn rheolaidd ac ymateb i sylwadau.

Postio am eich grant ar y cyfryngau cymdeithasol

Dylech ddefnyddio'r hashnod #LoteriGenedlaethol mewn postiadau am eich grant. Mae hyn yn cydnabod y gefnogaeth y mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn ei rhoi i brosiectau.

Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol

Gallwch rannu newyddion, lluniau a fideos o'ch prosiect gyda ni.
Dilynwch Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ar:

Rydym hefyd yn rhannu newyddion a diweddariadau lleol ar dudalennau Facebook y gwahanol wledydd:

Cael help gyda'r cyfryngau cymdeithasol

I gael cyngor am y cyfryngau cymdeithasol, darllenwch: