Neidio i'r prif gynnwys

Croeso i’n gwefan newydd. Efallai y byddwch yn gweld rhai tudalennau o’n hen wefan wrth i ni symud pethau draw.

Dweud wrth y cyfryngau lleol am eich grant

Mae'n gyflawniad enfawr i dderbyn grant Loteri Genedlaethol. Er mwyn codi ymwybyddiaeth o'ch gwaith, rydym yn eich annog i rannu eich newyddion gyda'r cyfryngau lleol.

Mae hefyd yn eich helpu i ddiolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol am wneud eich gwaith yn bosibl.

Dod o hyd i gysylltiadau cyfryngau lleol

Mae'r cyfryngau lleol yn cynnwys:

  • papurau newydd ar-lein neu brint
  • gorsafoedd radio
  • gwefannau fel blogiau lleol neu Substack
  • podlediadau

I ddod o hyd i'r person gorau i gysylltu â nhw, edrychwch ar eu gwefan neu ffoniwch nhw. Dylech ofyn at bwy y dylech anfon eich gwybodaeth.

Ysgrifennu datganiad i'r wasg

Bydd angen i chi ysgrifennu datganiad i'r wasg i'w rannu â chysylltiadau cyfryngau lleol.

Dylech gynnwys:

  • y dyddiad y gellir cyhoeddi eich datganiad i'r wasg neu os yw'n cael ei ryddhau ar unwaith
  • pennawd clir sy'n sôn am eich sefydliad a'r grant a dderbyniwyd
  • swm y grant
  • yr ariannwr (Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol)
  • beth yw'r gwaith a ariennir
  • lle bydd yn digwydd
  • pam mae'n bwysig yn lleol
  • pwy fydd yn helpu
  • pryd y cawsoch y grant neu pryd y byddwch chi'n dechrau ei ddefnyddio
  • dyfyniadau gan bobl fel staff, gwirfoddolwyr neu'r bobl rydych chi'n eu cefnogi
  • gwybodaeth gyswllt ar gyfer ymholiadau'r cyfryngau (enw, e-bost, ffôn)

Datganiad i'r wasg enghreifftiol

Dyma enghraifft o ddatganiad i'r wasg gan grŵp cymunedol a dderbyniodd grant.

Youth Support yn dathlu £50,000 o arian y Loteri Genedlaethol i helpu plant anabl

Mae Youth Support yn grŵp cymunedol lleol yn Chelmsford. Heddiw, mae'r grŵp yn dathlu derbyn £50,000 gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Bydd yr arian yn eu helpu i gynnal gweithgareddau i blant anabl a rhoi cefnogaeth i'r rhieni.

Ffurfiodd Annie Body y sefydliad yn 2013 i helpu teuluoedd lleol a'u plant. Heddiw, mae 12 o wirfoddolwyr yn rhedeg y grŵp.

Mae'r grŵp yn cynnal 5 sesiwn bob wythnos, gan helpu 50 o blant lleol. Mae'r plant yn ymuno â gweithgareddau fel paentio, actio, canu a gemau. Mae'r sesiynau’n helpu plant i wneud ffrindiau newydd, magu hyder a dysgu sgiliau newydd.

Bydd y grant yn caniatáu i'r grŵp gynyddu i 7 sesiwn bob wythnos, gan gyrraedd 70 o blant. Bydd y grant hefyd yn helpu rhieni'r plant trwy sesiynau cymorth cymheiriaid newydd. Bydd y sesiynau hyn yn helpu rhieni i siarad â phobl â phrofiadau tebyg ac adeiladu rhwydwaith cymorth.

Dywedodd Annie Body, sylfaenydd Youth Support:

"Rydym wrth ein boddau bod Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi cydnabod ein gwaith yn y modd hwn. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol gallwn helpu mwy o blant anabl a'u teuluoedd. Mae hyn yn eu helpu i adeiladu perthnasoedd ag eraill sy'n wynebu heriau tebyg. Bydd hefyd yn eu helpu i greu eu cylchoedd cefnogol eu hunain o ffrindiau a chyfoedion."

Dywedodd Some Body, gwirfoddolwr yn Youth Support:

"Rydyn ni eisiau diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol am eu cefnogaeth. Mae'r gweithgareddau hyn yn rhaff achub i blant anabl a'u rhieni"

Nodiadau i olygyddion

Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yw'r ariannwr cymunedol anstatudol mwyaf yn y DU. Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn codi dros £32 miliwn yr wythnos ar gyfer achosion da ledled y DU. Diolch iddyn nhw, mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn dosbarthu dros £600 miliwn y flwyddyn drwy dros 13,000 o grantiau. Mae'r ariannwr yn bwriadu buddsoddi dros £4 biliwn o grantiau mewn cymunedau erbyn 2030. Mae'n cefnogi prosiectau ledled y DU gyfan i droi eu syniadau trawsnewidiol yn realiti.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

Diwedd

Cyswllt

Annie Body

  • Rhif ffôn: 0800 800 80 80
  • E-bost: anniebody@anyprovider.co.uk

Mae lluniau ar gael ar gais.

Defnyddio lluniau datganiad i'r wasg

Gall defnyddio lluniau o ansawdd uchel gyda'ch datganiad i'r wasg eich helpu i gael mwy o gyhoeddusrwydd. Mae lluniau’n helpu i dynnu sylw pobl a gwneud eich cynnwys yn fwy diddorol. Dylech ystyried:

  • beth mae'r llun yn ei ddangos am eich prosiect
  • lle tynnwyd y llun
  • pwy sydd yn y llun - rhaid i chi gael eu caniatâd ar gyfer y llun yn ysgrifenedig

Er mwyn helpu'r newyddiadurwr i ysgrifennu pennawd ar gyfer y llun:

  • labelwch bawb yn y llun gyda'u henw a'u rôl
  • cofiwch gynnwys enw'r ffotograffydd

Er enghraifft: 'O'r chwith i'r dde: Joe Bloggs o brosiect X gyda Maer tref X, ffotograffydd Jane Smith'.

Mae newyddiadurwyr yn derbyn llawer o ddatganiadau i'r wasg bob dydd. Os nad ydych wedi cael ymateb, rhowch alwad iddynt i dynnu sylw at eich newyddion.

Tynnu eich lluniau datganiad i'r wasg

Gallwch ddefnyddio ffôn clyfar i dynnu lluniau o ansawdd uchel. Rydym yn argymell eich bod chi'n tynnu eich lluniau mewn fformat tirwedd (llorweddol). Mae lluniau tirwedd fel arfer yn gweithio'n well ar gyfer cyhoeddiadau ar-lein a phrint.

Os ydych chi'n bwriadu defnyddio ffotograffydd proffesiynol, gwnewch yn siŵr eich bod yn cysylltu â nhw'n gynnar. Gallant gael eu harchebu yn gyflym.

Anfon datganiad i'r wasg

Cyn i chi anfon eich datganiad i'r wasg at rywun, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n:

  • cynnwys y stori a'r ardal yn llinell bwnc yr e-bost. Er enghraifft, 'Canolfan Gymunedol Wolverhampton yn derbyn Arian y Loteri Genedlaethol'
  • defnyddio eich datganiad i'r wasg fel cynnwys eich e-bost. Peidiwch â'i atodi i'r e-bost
  • cynnwys eich manylion cyswllt
  • atodi llun o ansawdd uchel

Dywedwch wrthym am eich straeon llwyddiant

Gallwch ddweud wrthym am eich sylw yn y cyfryngau drwy anfon e-bost at: pressoffice@tnlcommunityfund.org.uk.