Amserlen a chamau nesaf
Y broses ymgeisio
Mae’n rhaid i chi wneud cais am grant datblygu yn gyntaf. Dim ond partneriaethau sydd wedi cael y grant hwn fydd yn gallu ymgeisio am grant i gyflawni’r prosiect yn nes ymlaen.
Cam 1: datblygu’r prosiect
Gall partneriaethau ofyn am grant datblygu hyd at £25,000. Gall hyn eich helpu i dalu am bethau fel:
- amser staff
- sesiynau ymgysylltu â phlant a'u gofalwyr
- cynnal cyfarfodydd partneriaeth
Bydd cefnogaeth ar gael i ddatblygu eich prosiect.
Os ydych chi'n addas i ymgeisio, byddwn yn anfon ffurflen atoch i ddweud mwy wrthym am eich syniad. Bydd angen i chi gyflwyno'r ffurflen hon erbyn 12pm, 1 Rhagfyr 2025.
Gweler y cwestiynau yn y ffurflen grant datblygu.
Byddwn yn rhoi gwybod i chi a ydych chi'n cael grant datblygu erbyn mis Mawrth 2026.
Cam 2 – cyflawni’r prosiect
Ar ôl i chi ddatblygu eich prosiect, byddwch yn gallu gwneud cais am grant o hyd at £2 filiwn i'w gyflawni. Dim ond os ydych wedi cael grant datblygu y gallwch chi wneud cais am hwn.
Gallwn ariannu prosiectau a fydd yn para hyd at 6 mlynedd. Gallwn ariannu rhan o'ch prosiect neu'ch prosiect cyfan.
Byddwn yn anfon ffurflen gais fanylach atoch i wneud cais.
Gweler y cwestiynau yn y ffurflen gais.
Bydd angen i chi gyflwyno'r ffurflen hon erbyn 31 Gorffennaf 2026.
Byddwn yn rhoi gwybod i chi a ydych chi'n cael y grant hwn erbyn Hydref 2026.
Os ydych chi angen cymorth i gyfathrebu
Os yw'n anodd neu'n amhosibl i chi ymgeisio ar-lein, rhowch wybod. Gallwn gynnig ffyrdd eraill o ymgeisio, megis ffurflen sy’n gweithio all-lein.
Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw anghenion cymorth cyfathrebu.
Byddwn yn gwirio’r wybodaeth a rowch i ni
Fel sefydliad sy’n dosbarthu arian cyhoeddus, byddwn yn gwirio’r wybodaeth a rowch i ni. Dysgwch ragor am y gwiriadau.
Cytuno i’n telerau ac amodau
Mae’n rhaid i chi ddarllen ein telerau ac amodau a chytuno iddynt cyn cyflwyno eich cais.
Sut rydym yn defnyddio eich data personol
I gael gwybod sut rydym yn defnyddio a storio eich data personol, darllenwch ein hysbysiad phreifatrwydd.