Yr hyn rydyn ni am ei ariannu
Rydym yn ariannu prosiectau a arweinir gan y gymuned sy'n canolbwyntio ar newid yn yr hinsawdd a byw'n gynaliadwy.
Gallai eich prosiect gynnwys:
- tyfu neu rannu bwyd
- gwella mynediad at drafnidiaeth wyrddach
- defnyddio neu gynhyrchu ynni'n fwy cynaliadwy
- lleihau gwastraff neu newid sut mae eich cymuned yn bwyta pethau
Rydym yn awyddus i gefnogi prosiectau sy’n:
- canolbwyntio'n glir ar weithredu yn yr hinsawdd
- cynnwys eich cymuned wrth lunio'r syniad
- yn agored i ddysgu a rhannu gydag eraill
Yr hyn rydyn ni'n annhebygol o'i ariannu
Rydym yn annhebygol o ariannu prosiectau:
- nad ydynt yn canolbwyntio'n glir ar newid yn yr hinsawdd neu gynaliadwyedd
- na fyddant yn helpu pobl i newid sut maen nhw'n ymateb i'r argyfwng hinsawdd
- sydd heb gynnwys y gymuned wrth ddatblygu'r syniad
Os yw'ch prosiect yn ymwneud yn bennaf â gwella lles, efallai y byddai'n well gennych wneud cais i: