Pwy all wneud cais
Gallwch wneud cais am y grant hwn os yw'ch grŵp:
- wedi derbyn mentora gan raglen Egin
- wedi cwblhau cynllun gweithredu
Mathau o sefydliadau a all fod yn berthnasol
Rhaid i'ch sefydliad fod yn un o'r canlynol:
- elusen gofrestredig
- sefydliad gwirfoddol neu gymunedol
- sefydliad corfforedig elusennol (CIO)
- cymdeithas gydweithredol gyda chymal nid-er-elw
- cwmni cyfyngedig trwy warant gyda chymal nid-er-elw
- cwmni buddiannau cymunedol (CIC)
- cymdeithas budd cymunedol
- sefydliad gwirfoddol neu gymunedol heb ei gofrestru
- cyngor tref neu gymuned (gyda chefnogaeth gref gan y gymuned leol)
- ysgol (os yw'r prosiect yn cynnwys ac o fudd i'r gymuned ehangach)
- grŵp sy'n seiliedig ar ffydd
Gall partneriaethau wneud cais
Rydym yn croesawu ceisiadau gan bartneriaethau. Ond rhaid i'r sefydliad arweiniol fod yn un o'r mathau a restrir uchod.
Yr hyn sydd ei angen ar eich sefydliad
I wneud cais, rhaid i'ch sefydliad hefyd:
- gael o leiaf dau berson nad ydynt yn gysylltiedig â'ch bwrdd neu bwyllgor
- gael cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu yn y DU yn enw eich sefydliad, gydag o leiaf dau berson nad ydynt yn gysylltiedig sy'n rheoli'r cyfrif
Beth rydyn ni'n ei olygu trwy 'gysylltiedig'
Rydym yn ystyried bod pobl yn gysylltiedig os ydyn nhw:
- yn briod neu mewn partneriaeth sifil
- mewn perthynas hirdymor neu'n byw gyda'i gilydd
- yn perthyn trwy waed neu drwy bartner
- yn byw yn yr un cyfeiriad