Sut i wneud cais
I fod yn gymwys i wneud cais, rhaid i chi fod wedi gwneud y ddau o'r canlynol:
- wedi derbyn mentora gan raglen Egin
- wedi cwblhau cynllun gweithredu
Gallwch wneud cais am hyd at £15,000. Mae'r arian hwn yn bosibl diolch i Ariannu Asedau Segur.
Cysylltwch â ni am ffurflen gais
- E-bost: camaucynaliadwycymru@tnlcommunityfund.org.uk
- Ffôn: 0300 123 0735
Gallwch ddarllen rhestr o'r cwestiynau y byddwn yn eu gofyn yn y ffurflen gais.
Beth sy'n digwydd ar ôl i chi wneud cais
Byddwn yn anelu at gysylltu â chi gyda phenderfyniad o fewn 4 wythnos. Yn ystod y cyfnod hwnnw:
- byddwn yn adolygu'ch syniad ac yn cynnal rhai gwiriadau ar y wybodaeth rydych chi wedi'i rhoi i ni
- efallai y byddwn yn eich ffonio i siarad am eich cais neu ofyn am fwy o fanylion
- gallwch ddarllen mwy am y gwiriadau rydyn ni'n eu cynnal
Os yw'ch cais yn llwyddiannus:
- byddwn yn anfon e-bost atoch i roi gwybod i chi
- unwaith y byddwch chi'n anfon cyfriflen banc atom, byddwn yn talu'r arian i'ch cyfrif o fewn 14 diwrnod
Dechrau eich prosiect
Gallwch ddechrau eich prosiect cyn gynted ag y byddwch wedi derbyn y grant. Rhaid iddo ddechrau o fewn 3 mis i'r dyddiad y gwnaethom gynnig y grant. Os nad ydych chi'n siŵr am eich dyddiad cychwyn, siaradwch â'ch swyddog ariannu.
Dylech gyflwyno'r prosiect fel y nodir yn eich cais, oni bai ein bod wedi cytuno i unrhyw newidiadau.
Efallai y byddwn yn gwirio gyda chi o bryd i'w gilydd i weld sut mae eich prosiect yn mynd. Bydd angen i chi gytuno â'n telerau ac amodau cyn i chi ddechrau.
Rhannu eich stori
Byddem wrth ein bodd yn clywed sut mae eich prosiect yn mynd. Gallwch:
- ddweud wrth eich cymuned leol
- rhannu diweddariadau ar y cyfryngau cymdeithasol
- siarad â'r wasg leol
Byddwn hefyd yn helpu i rannu’r hanes trwy rannu straeon a chyhoeddiadau i'r wasg.
Gallwch lawrlwytho ein logo i ddangos bod eich prosiect yn cael ei ariannu gan Camau Cynaliadwy Cymru.
