Beth allwch chi wario'r arian arno
Gallwn ariannu'ch prosiect i gyd neu ran ohono. Mae hyn yn cynnwys costau cyfalaf a refeniw.
Costau cyfalaf
Mae'r rhain yn gostau untro neu hirdymor. Er enghraifft:
- prynu offer
- adnewyddu neu ddatblygu tir neu adeiladau
- gwaith arall sy'n gysylltiedig ag adeiladu
- cerbydau trydan - gweler ein canllawiau ariannu cerbydau (PDF, 950 KB)
Costau refeniw
Mae'r rhain yn gostau parhaus neu dymor byr. Er enghraifft:
- cyflogau staff y prosiect
- treuliau gwirfoddoli
- cludiant
- costau cyfieithu
- dysgu a gwerthuso
Os ydych chi'n gwneud cais am dir neu waith adnewyddu
Rhaid i chi roi:
- prawf eich bod chi'n berchen ar y tir neu'r adeilad. Gall hyn fod yn rhydd-ddaliad neu lesddaliad. Os yw'n lesddaliad, rhaid i'r les redeg am o leiaf bum mlynedd ar ôl i'r gwaith gael ei orffen, heb unrhyw gymalau torri
- tystiolaeth bod gennych yr holl ganiatâd sydd ei angen arnoch, fel caniatâd cynllunio
- o leiaf tri dyfynbris gan adeiladwyr annibynnol
Os nad ydych chi'n berchen ar y tir neu'r adeilad, rhaid i chi hefyd gael:
- les o bum mlynedd neu fwy, neu lythyr yn cadarnhau y byddwch yn cael un
- caniatâd ysgrifenedig gan y perchennog neu'r landlord i wneud y gwaith
Yr hyn na allwn ei ariannu
Nid ydym yn ariannu:
- ymgyrchu neu weithgareddau gwleidyddol sy'n cefnogi neu'n gwrthwynebu plaid wleidyddol
- alcohol
- gwneud elw
- TAW y gallwch ei adennill
- gweithgareddau sy'n disodli arian y llywodraeth (gwiriwch pa gymorth sydd ar gael yn barod)
- gweithgareddau crefyddol
- talu rhywun arall i ysgrifennu eich cais
Gweithgarwch gwleidyddol ac ymgyrchu
Gallwn ariannu rhywfaint o weithgaredd gwleidyddol neu ymgyrchu, ond dim ond os:
- nad yw'n blaid-wleidyddol - mae'n rhaid iddo ganolbwyntio ar bolisi, arfer, neu ddeddfwriaeth
- yw’n cefnogi nodau eich sefydliad ac o fudd i'r cyhoedd
Ni fyddwn yn ariannu prosiectau lle mae gweithgarwch gwleidyddol yn brif bwrpas. Ond gallwn ariannu prosiectau sy'n ymwneud yn bennaf ag ymgyrchu.