Cefnogi syniadau gwych

Mae Cefnogi Syniadau Gwych yn dyfarnu grantiau i gefnogi syniadau prosiect arloesol a strategol bwysig sy'n annog newid cymdeithasol cadarnhaol yng Nghymru.

Ardal
Cymru
Yn addas ar gyfer
Sefydliadau gwirfoddol/cymunedol a chyrff statudol
Maint yr ariannu
£10,001 a throsodd
Cyfanswm ar gael
£1.5 miliwn y flwyddyn ariannol hon
Terfyn amser ymgeisio

Dim dyddiad cau

Sut i fod yn llwyddiannus

Drwy Cefnogi Syniadau Gwych, gallwn roi grantiau i sefydliadau sy'n cefnogi syniadau prosiect arloesol a strategol bwysig sy'n annog newid cymdeithasol cadarnhaol yng Nghymru.

Rydym yma i helpu ac eisiau siarad â chi am eich syniadau i gefnogi syniadau prosiect arloesol a strategol bwysig sy'n annog newid cymdeithasol cadarnhaol yng Nghymru.

Byddwn yn chwilio i asesu:

Sut mae'ch sefydliad yn cyd-fynd â'r blaenoriaethau a amlinellwyd gennym uchod?

• Beth fyddai'r arian y gofynnwyd amdano yn ei gwmpasu?

• Os yw'n weithgaredd newydd/ychwanegol, disgrifiwch beth fyddai'r gweithgaredd yn ei olygu, pwy fydd yn ei helpu a pham rydych chi'n meddwl y bydd yn cefnogi'r gymuned ar yr adeg benodol hon o argyfwng

• Pa gyfnod o amser fyddai'r arian yn ei gwmpasu?

• Faint o arian rydych chi'n gofyn amdano? Sylwch na allwn ddarparu arian anghyfyngedig felly rhowch gyllideb inni gyda'r eitemau prif gostau y bydd ein harian yn eu talu

Os ydych chi'n gwneud cais am rywbeth nad yw'n gysylltiedig â COVID-19, yna mae ein blaenoriaethau ariannu arferol isod.

Caiff y grantiau eu dyfarnu am hyd at bum mlynedd a gallwn ariannu gweithgareddau prosiect, costau gweithredu a chostau datblygu sefydliadol.

Mae gennym ddiddordeb mawr mewn clywed eich syniadau. Os ydynt yn fawr neu'n fach, dywedwch wrthym am y pethau rydych yn credu bydd yn gwella'ch cymuned.

Ein blaenoriaethau ariannu

Rydym am ariannu prosiectau sy'n:

  • Arloesol – Efallai yr hoffech brofi dulliau newydd sy'n mynd i'r afael â mater newydd neu fater sy'n dod i'r amlwg neu ddulliau newydd sy'n anelu at sicrhau gwell canlyniadau i'r bobl a'r cymunedau rydych yn eu cefnogi. 
  • Galluogi sefydliadau i weithio mewn ffyrdd newydd, gan gynnwys dod yn fwy galluog yn ddigidol, galluogi cyd-gymorth, ac adeiladu a chryfhau'r seilwaith dinesig cymdeithasol a all feithrin gweithredu cymunedol.
  • Galluogi mwy o bobl i gyflawni eu potensial drwy weithio i fynd i'r afael â materion cyn gynted â phosibl. 

Bydd angen i geisiadau fodloni o leiaf un o nodau'r rhaglen uchod.

Beth rydym eisiau ei weld

Eich bod wedi datblygu'ch syniad gan gynnwys y bobl a fydd yn elwa

Rydym eisiau gweld eich bod wedi siarad â phobl ac wedi gwrando ar yr hyn y maent yn dweud.

Eich bod yn deall y gweithgareddau a gwasanaethau cyfredol sy'n gwneud gwaith tebyg

Ydych chi wedi siarad â grwpiau eraill? Beth allwch chi ddysgu ganddynt, a sut gallwch chi gyfrannu at y gwaith maen nhw'n gwneud eisoes?

Eich bod yn ymrwymedig at amrywiaeth a chynhwysiad a'r amgylchedd

Byddwn eisiau gwybod am eich polisïau cydraddoldeb ac amgylcheddol os bydd gennym ddiddordeb yn eich syniad.

Darganfyddwch fwy o wybodaeth ar ein egwyddorion cydraddoldeb a polisi amgylcheddol.

Eich bod yn cael eich arwain gan bobl, yn seiliedig ar gryfderau ac yn gysylltiedig

Trwy ein holl raglenni ariannu, mae diddordeb gennym mewn sefydliadau sydd:

  • yn cael eu harwain gan bobl - cynnwys y bobl rydych yn gweithio gyda hwy mewn modd ystyrlon yn natblygiad a chyflwyniad eich gweithgaredd
  • yn seiliedig ar gryfderau - gwneud y mwyaf o'r sgiliau sydd eisoes yn bodoli mewn cymunedau
  • yn gysylltiedig ­- deall beth mae sefydliadau perthnasol eraill yn gwneud a datblygu perthnasoedd gwaith da.

Cysylltwch â ni os oes gennych syniad drwy ffonio 0300 1230735 neu e-bostio cymru@cronfagymunedolylg.org.uk.

Gwirio a ydych yn gymwys

Pwy all ymgeisio?

Gallwch ymgeisio os ydych yn:

  • Fudiad gwirfoddol/gymunedol
  • elusen gofrestredig neu fudiad elusennol corfforedig (CIO)
  • corff statudol (gan gynnwys awdurdod lleol, cyngor tref, plwyf neu gymuned)
  • cwmni nid er elw gan gynnwys cwmnïau cyfyngedig drwy warant a Chwmnïau Buddiant Cymunedol gydag o leiaf dau gyfarwyddwr (gweler isod am Gwmnïau Buddiant Cymunedol anghymwys)
  • grŵp o fudiadau, cyhyd â bod yr ymgeisydd arweiniol naill ai'n fudiad gwirfoddol/cymunedol neu'n gorff statudol.

Ni fyddwn yn derbyn ceisiadau gan:

  • unigolion
  • unig fasnachwyr
  • sefydliadau sydd wedi’u lleoli y tu allan i'r Deyrnas Unedig
  • unrhyw un sy'n ymgeisio ar ran sefydliad arall
  • sefydliadau y mae eu bwriad yw creu elw yn bennaf i'w ddosbarthu'n breifat. Mae hyn yn cynnwys y rhai heb gloeon asedau digonol neu fudiadau sy'n gallu talu elw i gyfarwyddwyr neu gyfranddeiliaid, a allai gynnwys rhai Cwmnïau Buddiant Cymunedol cyfyngedig trwy gyfranddaliadau
  • sefydliadau heb o leiaf dau unigolyn nad ydynt yn perthyn* ar y bwrdd neu bwyllgor.

Ar gyfer syniadau cysylltiedig â COVID-19, rydym yn eich annog i feddwl am unrhyw gostau sydd eu hangen i'ch helpu chi a'ch cymuned trwy'r argyfwng presennol. Yn ogystal â'r costau i gyflawni'ch gweithgaredd, gallai hyn gynnwys: cyfraniad at gostau sefydlog, buddsoddiad yn eich systemau, pobl a seilwaith, datblygu gallu pwrpasol

(*ddim yn berthynas trwy waed, wedi priodi, mewn perthynas hir dymor neu bobl sy'n cydfyw yn yr un cyfeiriad)

Byddwn yn ystyried ariannu grwpiau anghorfforedig, ond fel arfer, rydym yn disgwyl i grwpiau ddefnyddio'n hariannu i gorffori a, lle bo'n briodol, i gofrestru fel elusen.

Ar beth allwch chi wario'r arian?

Gallwn ariannu:

  • cyflogau staff
  • gweithgareddau prosiect
  • costau rhedeg
  • cyfarpar
  • datblygu sefydliadol

Allwn ni ddim ariannu:

  • gweithgareddau sy'n creu elw er budd preifat
  • gweithgareddau crefyddol (er y gallwn ariannu sefydliadau crefyddol os ydynt yn darparu buddion ar gyfer y gymuned ehangach)
  • gweithgareddau sy'n disodli ariannu gan y llywodraeth
  • gweithgareddau y gall unigolion yn unig elwa ohonynt, yn
  • costau ôl-weithredol
  • ad-dalu benthyciadau.

Ddim yn siŵr a ydych yn gymwys?

Os nad ydych yn siŵr os ydych yn gymwys, cysylltwch â ni trwy e-bostio cymru@cronfagymunedolylg.org.uk neu ffonio ein Llinell Gymorth ar 0300 1230735.

Beth i'w ddisgwyl

Cyn i chi ystyried cyflwyno cais, mae'n hanfodol eich bod yn siarad â ni yn gyntaf er mwyn i ni allu pennu a yw'ch syniad yn addas ar gyfer yr ariannu hwn.

Does dim dyddiad cau ar gyfer Cefnogi syniadau gwych - gallwch chi ymgeisio unrhyw bryd.

Gall yr amser y mae'n ei gymryd i gael penderfyniad gennym amrywio. Rydym yn blaenoriaethu ceisiadau sy'n gysylltiedig â COVID-19 a byddwn yn ceisio dweud wrthych ein penderfyniad cyn gynted â phosibl.

Os ydych chi am gyflwyno cais nad yw'n gysylltiedig â COVID-19, mae croeso i chi wneud hynny. Fodd bynnag, o ystyried ein ffocws ar COVID-19, byddwch yn ymwybodol ei bod yn debygol y bydd mwy o gystadleuaeth am ein harian ac efallai na fyddwn yn gallu cyrraedd atoch o fewn ein hamseroedd troi arferol. Os ydych chi am gyflwyno cais nad yw'n gysylltiedig â COVID-19, mae croeso i chi wneud hynny. Fodd bynnag, o ystyried ein ffocws ar COVID-19, byddwch yn ymwybodol ei bod yn debygol y bydd mwy o gystadleuaeth am ein harin ac efallai na fyddwn yn gallu cyrraedd atoch o fewn ein hamseroedd troi arferol.

1. Darganfod a allwn eich ariannu

  • Gwirio eich bod yn gymwys
  • Siaradwch â ni (edrychwch ar 'Dechrau Arni' am fanylion cyswllt)

2. Dweud wrthym beth yw eich syniad

Yn gyntaf, rhowch amlinelliad byr o'ch prosiect i ni.

Rydym yn deall efallai nad ydych yn gwybod holl fanylion eich syniad, ond er mwyn ein helpu i adeiladu dealltwriaeth dda, gofynnir i chi fod yn barod i siarad am y canlynol pan fyddwch yn cysylltu â ni:

  1. Beth ydych chi eisiau ei wneud a pham?
  2. Pa wahaniaeth ydych chi'n credu bydd eich syniad yn gwneud?
  3. Sut mae pobl a chymunedau yn gysylltiedig â'ch prosiect?
  4. Beth yw cefndir eich sefydliad?
  5. Faint o arian ydych chi ei angen gennym ac am faint o amser?
  6. Sut mae eich syniad yn ffitio i mewn gyda gweithgareddau lleol eraill?
  7. Sut mae eich prosiect yn arloesol* ac yn bwysig yn strategol**?

Os yw'ch prosiect yn gysylltiedig â COVID-19, rydym hefyd eisiau gwybod:

• Sut mae'ch sefydliad yn cyd-fynd â'r blaenoriaethau a amlinellwyd gennym uchod?

• Beth fyddai'r arian y gofynnwyd amdano yn ei gwmpasu?

Os yw'n weithgaredd newydd/ychwanegol, disgrifiwch beth fyddai'r gweithgaredd yn ei olygu, pwy fydd yn ei helpu a pham rydych chi'n meddwl y bydd yn cefnogi'r gymuned ar yr adeg benodol hon o argyfwng

• Pa gyfnod o amser fyddai'r arian yn ei gwmpasu?

• Faint o arian rydych chi'n gofyn amdano? Sylwch na allwn ddarparu arian anghyfyngedig felly rhowch gyllideb inni gyda'r eitemau prif gostau y bydd ein harian yn eu talu

*Gydag 'arloesol', rydym yn golygu:

  • Creu mathau newydd o weithgareddau a gwasanaethau i fynd i'r afael ag anghenion newydd neu ddatblygol: neu
  • Dulliau newydd neu well o gyflwyno gwasanaeth presennol.

**Gyda 'phwysig yn strategol', rydym yn golygu:

Unwaith i ni gytuno bod eich syniad ar gyfer prosiect yn addas ar gyfer y rhaglen ariannu hon, gallwch anfon cynnig amlinellol atom yn y fformat sydd hawsaf ar gyfer eich sefydliad. Er enghraifft, gallwch anfon fideo neu e-bost atom. Os oes gennych unrhyw broblemau'n cyflwyno'ch cais, ffoniwch ni.

Yna, byddwn yn cysylltu â chi o fewn pythefnos gyda'n penderfyniad cychwynnol.

3. Cyflwyno cais llawn

Os bydd eich cynnig amlinellol yn cael ei derfyn, byddwn yn gofyn i chi gyflwyno cais llawn.

Bydd eich cais yn cynnwys:

  • eich cynnig am ariannu
  • manylion y sefydliad
  • eich cytundeb partneriaeth (os yn berthnasol)

Byddwch hefyd yn derbyn arweiniad ar sut i roi eich cais llawn at ei gilydd gan gynnwys y meysydd bydd angen i chi sôn amdanynt. Bydd eich Swyddog Ariannu hefyd yn gallu darparu cyngor ychwanegol.

Bydd Pwyllgor Cymru Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn gwneud penderfyniad ariannu ar eich cais, yn seiliedig ar asesiad gan y Swyddog Ariannu perthnasol. Gallwch ddisgwyl derbyn penderfyniad terfynol ar eich cais o fewn 12 wythnos.

Os ydych yn llwyddiannus

Byddwch yn derbyn galwad gan eich Swyddog Ariannu a llythyr cynnig trwy'r post.

Os ydych yn aflwyddiannus

Byddwch yn derbyn galwad neu e-bost gan eich Swyddog Ariannu i'ch hysbysu am y penderfyniad ac i gynnig unrhyw adborth perthnasol.

4. Cael cefnogaeth barhaus

Os ydych yn llwyddiannus, byddwn yn gweithio gyda chi i adnabod y lefel gywir o gefnogaeth trwy gydol cyfnod eich grant.

Byddwn yn cytuno ar eich cynllun tâl, pa mor aml y byddwch yn rhoi gwybod i ni am eich cynnydd, a sut byddwn yn derbyn sicrwydd am yr ariannu rydym wedi dyfarnu.


Byddwn hefyd yn trafod sut gallwn eich cefnogi chi i ddathlu a hyrwyddo'ch ariannu, i ymgysylltu â'r gymuned ehangach ac i rannu'n dysgu gydag eraill.

Dechrau arni

Siaradwch â ni cyn i chi ddechrau eich cais, gallwch gysylltu â ni trwy e-bostio cymru@cronfagymunedolylg.org.uk neu ffonio ein Llinell Gymorth ar 0300 1230735.