Neidio i'r prif gynnwys

Croeso i’n gwefan newydd. Efallai y byddwch yn gweld rhai tudalennau o’n hen wefan wrth i ni symud pethau draw.

Yr hyn y gallwch chi wario’r arian arno

Gallwn ariannu:

  • cyflogau staff
  • gweithgareddau prosiect
  • costau rhedeg
  • offer
  • datblygu’r sefydliad

Nid yw’r rhestr hon yn cynnwys popeth. Os ydych chi’n ansicr, cysylltwch â ni i wirio’r hyn y gallwch wario’r arian arno. Gallwch gysylltu â ni drwy e-bostio cymru@cronfagymunedolylg.org.uk neu ffonio ein Llinell Gyngor ar 0300 123 0735.

Ni allwn ariannu:

  • gweithgareddau sy’n gwneud elw er budd personol
  • gweithgareddau crefyddol (oni bai ei fod o fudd amlwg i'r gymuned ehangach)
  • gweithgareddau sy’n cymryd lle ariannu gan y llywodraeth
  • gweithgareddau sydd o fudd i unigolion, yn hytrach na’r gymuned ehangach
  • costau ôl-weithredol
  • ad-dalu benthyciad