Pwy all ymgeisio
Gallwch ymgeisio os yw eich sefydliad yn un o’r canlynol:
- mudiad gwirfoddol neu gymunedol
- elusen gofrestredig neu sefydliad elusennol corfforedig (CIO)
- corff statudol, fel awdurdod lleol, cyngor tref, plwyf neu gymuned
- cwmni nid er elw gan gynnwys cwmnïau cyfyngedig drwy warant a Chwmnïau Buddiant Cymunedol (CIC)
- grŵp o sefydliadau, cyhyd â bod yr ymgeisydd arweiniol naill ai'n sefydliad gwirfoddol/cymunedol neu'n gorff statudol
Gallwn ystyried ariannu grwpiau anghorfforedig, ond byddem yn disgwyl i chi ddefnyddio’r arian i ddod yn gorfforedig a chofrestru fel elusen os oes angen.
Y gofynion o ran aelodau bwrdd neu bwyllgor
Mae’n rhaid cael o leiaf 2 gyfarwyddwr nad ydynt yn perthyn.
Rydym yn ystyried bod pobl yn perthyn os ydynt:
- wedi priodi neu mewn partneriaeth sifil
- mewn perthynas tymor hir neu’n byw gyda’i gilydd
- yn rhan o’r un teulu