Sut i ymgeisio
Os ydych yn ystyried ymgeisio, dyma sut mae’r broses yn gweithio a beth i’w ddisgwyl ar bob cam.
Cysylltwch a dywedwch wrthym am eich syniad
Cyn i chi ymgeisio, mae angen i chi siarad â ni. Rydym eisiau clywed am eich syniad a’ch helpu chi i benderfynu os yw’r rhaglen ariannu yma’n addas.
Gallwch gysylltu â ni drwy e-bostio cymru@cronfagymunedolylg.org.uk neu ffonio ein Llinell Gyngor ar 0300 123 0735.
Pan fyddwch yn cysylltu, byddwn yn gofyn i chi ddweud wrthym am eich syniad. Does dim rhaid cael ateb i bopeth, ond byddwn ni eisiau deall:
- Beth ydych chi eisiau ei wneud a pham?
- Sut mae eich syniad yn ffitio ein blaenoriaethau ariannu?
- Pa wahaniaeth fydd eich syniad yn ei wneud?
- Sut mae’r gymuned wedi llywio eich prosiect?
- Beth yw cefndir eich sefydliad?
- Faint o arian ydych chi ei angen gennym ac am faint o amser?
- Sut mae eich syniad adeiladu ar waith presennol neu’n ategu ato?
- Sut mae eich prosiect yn arloesol ac yn bwysig yn strategol?
Gydag 'arloesol', rydym yn golygu:
- rhoi tro ar fathau newydd o weithgaredd i fynd i'r afael ag anghenion sy’n dod i’r amlwg, neu
- ddod o hyd i ddulliau gwell o gyflawni gwaith presennol
Drwy 'pwysig yn strategol', rydym yn golygu:
- cryfhau systemau lleol
- meithrin partneriaethau
- cefnogi seilwaith cymunedol
Anfonwch gynnig amlinellol atom
Os ydym yn cytuno bod eich syniad yn addas, gallwch anfon eich cynnig amlinellol atom mewn unrhyw fformat sy’n eich siwtio chi. Er enghraifft, fideo byr, e-bost neu ddogfen. Os oes angen help arnoch, rhowch wybod.
Byddwn yn cysylltu â chi o fewn pythefnos gyda'n penderfyniad cychwynnol.
Cyflwyno cais llawn
Os bydd eich cynnig amlinellol yn cael ei dderbyn, byddwn yn eich gwahodd chi i gyflwyno cais llawn. Bydd hyn yn cynnwys:
- eich cynnig manwl
- manylion eich sefydliad
- eich cytundeb partneriaeth (os yn berthnasol)
Byddwch yn derbyn arweiniad ar sut i roi eich cais llawn at ei gilydd. Bydd eich Swyddog Ariannu hefyd yn gallu darparu cyngor.
Bydd Pwyllgor Cymru Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn gwneud y penderfyniad terfynol. Gallwch ddisgwyl penderfyniad o fewn 12 wythnos fel arfer.
Os ydych yn llwyddiannus
Os yw eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn gweithio gyda chi i gytuno ar:
- eich cynllun taliadau
- pa mor aml y byddwch yn rhoi gwybod i ni am eich cynnydd
- sut byddwn yn derbyn sicrwydd am yr ariannu rydym wedi ei ddyfarnu
Byddwn hefyd yn trafod sut gallwn eich cefnogi chi i:
- ddathlu a hyrwyddo’ch ariannu
- ymgysylltu â’r gymuned ehangach
- rhannu eich dysgu ag eraill
Os and yw eich cais yn llwyddiannus, bydd eich Swyddog Ariannu yn esbonio’r penderfyniad ac yn cynnig adborth.