Dweud wrth wleidyddion lleol am eich grant
Gall rhannu eich newyddion ariannu gyda'ch gwleidydd lleol eu helpu i:
- ddysgu am eich gwaith a'ch sefydliad
- codi ymwybyddiaeth ehangach o'ch gwaith a'ch sefydliad
- adeiladu perthynas gref, barhaol gyda nhw
Dod o hyd i wleidyddion lleol
Gallwch gysylltu â'ch AS, MSP, neu MLA lleol i ddweud wrthynt am eich grant. Dewch o hyd i'ch gwleidyddion lleol trwy nodi cod post eich prosiect ar wefan Write To Them.
Ysgrifennu at eich gwleidydd lleol
Os ydych chi eisiau dweud wrth wleidydd lleol am eich grant, dylai eich e-bost iddynt gynnwys:
- pam rydych chi'n ysgrifennu atynt
- esboniad byr am y gwaith a ariennir
- pam mae'r grant yn bwysig yn lleol
- pwy a ariannodd chi (Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol)
- gwahoddiad i weld y gwaith a ariennir, os yn bosibl
- sut y gallant gefnogi eich gwaith
- postiadau cyfryngau cymdeithasol enghreifftiol y gallant eu defnyddio i siarad am eich newyddion ariannu
- manylion cyswllt fel y gallant ofyn am ragor o wybodaeth neu drefnu ymweliad
Enghraifft o e-bost at wleidydd lleol
Dyma enghraifft o e-bost at wleidydd gan elusen leol sydd wedi derbyn grant.
Pwnc e-bost: Canolfan Gofalwyr Caerdydd yn derbyn grant gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol
Annwyl Jane Smith
Ysgrifennaf atoch i rannu bod y Ganolfan Gofalwyr Teulu wedi derbyn grant gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
Bydd y grant hwn yn ein helpu i gynnal gweithgareddau cymorth cymheiriaid i ofalwyr teuluol yng Nghaerdydd. Bydd ein prosiect yn cefnogi teuluoedd sy'n darparu gofal di-dâl i'w hanwyliaid. Bydd yn helpu i fynd i'r afael â'r effaith y gall gofalu ei chael ar iechyd a lles pobl.
Hoffem i chi ein cefnogi trwy rannu ein newyddion ariannu ar y cyfryngau cymdeithasol. Enghreifftiau o bostiadau cyfryngau cymdeithasol y gallwch eu defnyddio:
- Gwych clywed bod @FamilyCarersCentre sydd wedi'i leoli yn fy etholaeth i wedi cael grant gan @TNLComFundWales i helpu eu cymuned!
- Mae @FamilyCarersCentre, sydd wedi'i leoli yng Nghaerdydd, wedi derbyn £150,000 gan @TNLComFundWales. Diolch i chwaraewyr y #LoteriGenedlaethol.
Hoffem eich gwahodd i ymweld â ni i weld y gwahaniaeth rydyn ni'n ei wneud yn ein cymuned leol. Os oes gennych ddiddordeb mewn ymweld â ni, e-bostiwch: joebloggs@familycarerscentre.org.uk.
Edrychaf ymlaen at glywed gennych.
Yn gywir,
Joe Bloggs
Rheolwr Ariannu
Canolfan Gofalwyr Teulu
Dywedwch wrthym os yw gwleidydd eisiau ymweld â'ch prosiect
Os ydych chi'n trefnu i wleidydd lleol ymweld â'ch prosiect, dywedwch wrth ein tîm Materion Cyhoeddus: public.affairs@tnlcommunityfund.org.uk.
Rydym yn cadw cofnod o wleidyddion sy'n ymgysylltu â ni a'n prosiectau a ariennir. Mae hyn yn ein helpu i gadw ein sgyrsiau gyda nhw yn gyfredol.