Gofynion ar gyfer defnyddio ein logo
Sut i arddangos ein logo
Rhaid i chi ddefnyddio ein logo i ddangos bod chwaraewyr y Loteri Genedlaethol wedi cefnogi eich prosiect. Dylech roi'r logo yn rhywle gweladwy. Er enghraifft, gallwch ei arddangos ar:
- wal yn eich swyddfa
- eich gwefan
- darn o offer
Gadael lle o amgylch y logo
Dylech adael lle o amgylch ein logo fel ei fod yn hawdd ei ddarllen. Rhaid i'r gofod fod o leiaf hanner uchder y symbol bysedd croes yn y logo.
O ran isafswm maint, mae hyn yn 7mm mewn print neu 20 picsel ar y sgrin.
Peidiwch â gosod testun, delweddau neu logos eraill yn rhy agos ato.
Peidiwch â newid ein logo
Ni ddylech newid ein logo. Er enghraifft, rhaid i chi beidio â gwneud y canlynol:
- ei ymestyn, ei gylchdroi neu ei addasu
- newid y lliwiau
- ychwanegu effeithiau fel cysgodion neu amlinelliadau
- ychwanegu geiriau ychwanegol fel disgrifiad neu arwyddair
- ei osod ar gefndir prysur neu gefndir cyferbyniad isel
Gofynion maint lleiaf ar gyfer ein logo
I wneud yn siŵr bod ein logo yn glir, rhaid i chi ddefnyddio'r mesuriadau lleiaf hyn.
Isafswm maint ar gyfer ein logo yn Gymraeg
- Ar gyfer defnydd print, o leiaf 44mm o led a 24mm o uchder
- Ar gyfer defnydd digidol, o leiaf 125 picsel o led a 68 picsel o uchder
Maint lleiaf gan gynnwys gofod o amgylch y logo:
- Ar gyfer defnydd print, o leiaf 58mm o led wrth 38mm o uchder
- Ar gyfer defnydd digidol, o leiaf 165 picsel o led wrth 108 picsel o uchder
Dewis y math o ffeil cywir ar gyfer ein logo
Defnyddio ein logo ar lwyfannau digidol
Defnyddiwch fath o ffeil PNG ar gyfer y logo ar lwyfannau digidol fel:
- gwefannau
- y cyfryngau cymdeithasol
- dogfennau Word
- cyflwyniadau PowerPoint
Defnyddio ein logo ar gyfer dogfennau print
Defnyddiwch fath o ffeil JPG neu PNG ar gyfer dogfennau print fel posteri neu daflenni.
Defnyddio ein logo ar gyfer dylunio proffesiynol
Defnyddiwch y math o ffeil fector EPS os ydych chi'n gweithio gyda dylunydd proffesiynol.
Defnyddio'r lliw logo cywir
Defnyddiwch y logo lliw llawn pryd bynnag y gallwch. Os yw'r cefndir yn ei gwneud hi'n anodd gweld y logo yn glir, gallwch ddefnyddio ein:
- logo du ar gefndiroedd golau
- logo gwyn ar gefndiroedd tywyll
Lawrlwythwch ein logo
Os oes angen help arnoch gyda defnyddio ein logo, e-bostiwch branding@tnlcommunityfund.org.uk.