Neidio i'r prif gynnwys

Croeso i’n gwefan newydd. Efallai y byddwch yn gweld rhai tudalennau o’n hen wefan wrth i ni symud pethau draw.

Telerau ac amodau ar gyfer defnyddio ein logo

Mae ein logo yn cynnwys bysedd croes y Loteri Genedlaethol a'r geiriau "Cronfa Gymunedol".

Mae'r rhan bysedd croes yn nod masnach sy'n eiddo i'r Comisiwn Gamblo. Rydym yn ei ddefnyddio gyda chaniatâd gan y Comisiwn Gamblo ac Allwyn Entertainment Limited (Allwyn), sy'n gweithredu'r Loteri Genedlaethol.

Caniatâd i ddefnyddio ein logo

Gallwch ddefnyddio ein logo gan ddilyn ein gofynion logo i hyrwyddo eich prosiect a ariennir gan y Loteri Genedlaethol. Mae'r caniatâd hwn yn berthnasol i'ch prosiect a ariennir yn unig. Ni allwch rannu'r caniatâd hwn gyda pherson, sefydliad neu brosiect arall.

Pan fydd eich prosiect yn dod i ben, rhaid i chi beidio â defnyddio ein logo ar gyfer unrhyw ddeunydd newydd neu mewn ffordd sy'n awgrymu ein bod yn dal i ariannu eich gwaith.

Gallwch ddefnyddio ein logo i ddangos ein bod wedi ariannu eich prosiect yn y gorffennol.

Dod â'ch caniatâd i ddefnyddio ein logo i ben

Gallwn roi terfyn ar eich caniatâd i ddefnyddio ein logo ar unrhyw adeg ac am unrhyw reswm.

Gallai hyn ddigwydd:

  • os yw Allwyn neu'r Comisiwn Gamblo yn dod â'n caniatâd i ddefnyddio'r logo i ben
  • os nad ydych yn dilyn ein gofynion logo
  • os yw eich grant Loteri Genedlaethol yn cael ei dynnu'n ôl, ei atal neu ei ddirwyn i ben

Os bydd eich caniatâd yn dod i ben, rhaid i chi roi'r gorau i ddefnyddio ein logo ar unwaith.

Rhannu eich manylion

Efallai y bydd yn rhaid i ni rannu eich manylion gydag Allwyn a'r Comisiwn Gamblo. Gallai hyn ddigwydd i wirio bod ein logo yn cael ei ddefnyddio'n gywir neu i hyrwyddo prosiectau rydyn ni wedi'u hariannu.

Os oes angen i ni rannu eich manylion, byddwn bob amser yn dilyn rheolau diogelu data.

Cysylltu â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ddefnyddio ein logo, e-bostiwch: marketing@tnlcommunityfund.org.uk.