Neidio i'r prif gynnwys

Croeso i’n gwefan newydd. Efallai y byddwch yn gweld rhai tudalennau o’n hen wefan wrth i ni symud pethau draw.

Beth mae eich mudiad ei angen i ymgeisio

Mae rhai pethau sylfaenol y bydd angen i’ch mudiad gael mewn lle cyn i chi ymgeisio am arian grant y Loteri Genedlaethol. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Dogfen lywodraethu, megis cyfansoddiad – Mae hwn yn nodi enw a phwrpas eich mudiad. Dylai hefyd gwmpasu sut y bydd yn gweithio. Felly, pethau fel sut mae pobl yn ymuno, sut y bydd eich pwyllgor yn gweithio, a phryd y byddwch chi'n cael cyfarfodydd. Mae angen eu dogfen lywodraethol eu hunain ar ganghennau mudiadau mwy. Mae gan yr NCVO gyngor ar ysgrifennu cyfansoddiad. Mae GOV.UK hefyd yn darparu gwybodaeth ar sut i ysgrifennu dogfen lywodraethu eich elusen.
  • Pwyllgor neu fwrdd gydag o leiaf dau aelod sydd ddim yn perthyn – Trwy ddim yn perthyn rydym yn golygu pobl nad ydyn nhw'n aelodau o'r teulu, fel brodyr a chwiorydd, rhieni a phlant, parau priod neu bartneriaid sifil neu bobl sy'n byw yn yr un cyfeiriad. Mae rhai rhaglenni yn gofyn am dri aelod, felly gwiriwch wrth ymgeisio.
  • Cyfrif banc yn enw eich mudiad – Mae angen i hwn fod fel yr ysgrifennwyd ar eich cyfansoddiad neu'ch dogfen lywodraethol. Bydd angen i chi hefyd sicrhau bod o leiaf dau berson sydd ddim yn perthyn wedi eu henwi ar y cyfrif ac yn rheoli trosglwyddiadau arian.
  • Cyfrifon ariannol blynyddol – Rydyn ni eisiau gwybod y dyddiad y mae'ch cyfrifon yn dod i ben bob blwyddyn a faint o incwm sydd gennych chi. Os nad oes gennych gyfrifon blynyddol, gan eich bod yn fudiad newydd (llai na 15 mis oed), byddwn yn dal i edrych ar eich cais.

Help i sefydlu eich mudiad

Mae llawer o gymorth a chyngor ar gael i sefydlu mudiad elusennol: