Y prosiectau rydym yn eu hariannu
Yr hyn rydyn ni eisiau ei ariannu
Rydym eisiau ariannu syniadau da sy’n gwneud o leiaf un o’r tri pheth hyn:
- dod â phobl ynghyd a chreu perthnasau cryf mewn ac ar draws cymunedau
- gwella’r lleoedd a’r gofodau sy’n bwysig i gymunedau
- helpu mwy o bobl i gyflawni eu potensial trwy eu cefnogi yn y cam cynharaf posibl
Gan ddibynnu ar ba raglen ariannu rydych yn ymgeisio iddi, gallwn ofyn am fwy o wybodaeth. Er enghraifft, sut mae eich prosiect yn ffitio gyda’r gweithgareddau eraill sydd eisoes yn digwydd yn eich cymuned.
I gael gwybod rhagor am yr hyn rydym yn chwilio amdano mewn ceisiadau, darllenwch ein nodau a’n hamcanion.
Yr hyn rydyn ni wedi ei ariannu
Rydym yn eich annog chi i wneud ymchwil ar y prosiectau rydym eisoes wedi eu hariannu er mwyn i chi gael gwell syniad os bydd eich prosiect yn gymwys.
Er mwyn deall mwy am yr hyn rydym yn ei ariannu:
- chwiliwch am ein prosiectau ar wefan 360GrantNav
- darllenwch am lwyddiannau pobl a phrosiectau sydd wedi cael arian grant