Neidio i'r prif gynnwys

Croeso i’n gwefan newydd. Efallai y byddwch yn gweld rhai tudalennau o’n hen wefan wrth i ni symud pethau draw.

Y gwiriadau a wnawn i asesu risg

Ein gwiriadau risg

Mae mwyafrif helaeth y bobl sy'n ymgeisio yn onest, ond yn achlysurol iawn rydym yn derbyn cais sy'n codi pryderon difrifol.

Gan ein bod yn gyfrifol am arian cyhoeddus, mae gennym ddyletswydd i asesu lefel y risg sy'n gysylltiedig ag unrhyw gais neu brosiect a ariennir gennym. Felly mae gennym ystod o wiriadau i'n helpu i asesu risg.

Ni allwn roi manylion penodol am yr holl wiriadau a gynhaliwn gan y byddai hyn yn lleihau eu heffeithiolrwydd. Fodd bynnag, gallwn roi rhywfaint o wybodaeth gyffredinol i chi am y pethau a edrychwn arnynt a sut rydym yn ymdrin ag unrhyw bryderon a nodwn.

Gwiriadau adnabod 

Dylai’r sawl a enwir fel pobl gyswllt ar y ffurflen gais neu unrhyw ddogfennaeth arall fod yn gwbl ymwybodol o’r cais a’r prosiect. 

I’n helpu ni i leihau’r posibilrwydd o dwyll mae’n bosib y byddwn yn defnyddio enw, cyfeiriad cartref a dyddiad geni unrhyw bobl gyswllt a enwir i gyflawni rhai gwiriadau adnabyddiaeth sylfaenol. Rydym yn fwy tebygol o fedru cadarnhau adnabyddiaeth rhywun os ydynt ar y gofrestr etholiadol neu os oes ganddynt Citizen card. 

Rydym yn defnyddio asiantaethau cyfeirnod credyd i gadarnhau gwybodaeth bersonol. Nid gwiriad credyd mo hwn ac ni fydd yn ymddangos ar unrhyw gofnod os ydych yn gofyn am gredyd gan sefydliadau eraill.

Os yw eich pobl gyswllt a enwir yn newid yn ystod cyfnod eich grant, chi sy’n gyfrifol am ein hysbysu am y newidiadau hyn mor fuan â phosib ar ôl iddynt ddigwydd. Mae’n bosib y byddwn yn cyflawni’r un gwiriadau ar y bobl hyn.

Gallwn ond roi dyfarniad neu wneud taliadau grant i’ch sefydliad os:

  • gallwn gadarnhau adnabyddiaeth y bobl gyswllt a enwir ac na adnabuwyd unrhyw broblemau
  • os ydym yn fodlon y byddai’n ddiogel ymddiried yn eich sefydliad i dderbyn arian cyhoeddus

Mae’n bwysig bod yr holl wybodaeth bersonol ar eich ffurflen gais yn gywir ac yn gyflawn. Gwnewch yn siŵr fod yr enwau a ddarparwch yn cyfateb i’r rhai sydd ar ddogfennau cyfreithiol, megis pasbortau, dogfennau mewnfudo neu drwyddedau gyrru. 

Os oes rhywbeth sy’n peri pryder neu nad ydym wedi siarad â chi ers tro, mae’n bosib y byddwn yn eich ffonio chi i gadarnhau eich manylion personol at ddibenion diogelwch.

Yn ogystal â’r cam ymgeisio, gall ein gwiriadau adnabyddiaeth ddigwydd unrhyw bryd yn ystod bywyd eich grant. Os bydd y gwiriadau hyn yn codi pryderon ynghylch adnabyddiaeth y bobl gyswllt a enwir neu’n tynnu ein sylw at unrhyw faterion a allai gynyddu’r risg o roi arian cyhoeddus o dan ofal eich sefydliad, gallai eich grant gael ei ddiddymu o dan amodau a thelerau’r grant. 

Os na allwn gadarnhau’r bobl gyswllt a enwir, byddwn yn ysgrifennu atoch gyda manylion yr asiantaethau cyfeirnod credyd a ddefnyddiom. Ni allwch apelio yn erbyn ein penderfyniad os yw’n seiliedig ar y gwiriadau adnabyddiaeth rydym yn eu cyflawni.

Eich hanes gyda ni a gwybodaeth gyhoeddus

Os ydych chi neu eich sefydliad yn gwneud cais, byddwn yn ystyried sut mae unrhyw geisiadau a wnaed gennych, neu unrhyw grantiau a gafodd eich sefydliad, wedi’u rheoli yn y gorffennol. Byddwn hefyd yn ystyried y bobl sy’n ymwneud â’ch sefydliad, felly mae’n bwysig eich bod yn adnabod y bobl rydych yn cydweithio â nhw ac yn cyflawni eich diwydrwydd dyladwy eich hun. 

Mae’n bosib y byddwn yn adnabod pryderon ynghylch unigolyn sy’n gysylltiedig â’ch sefydliad. Gall y pryder hwn gael ei adnabod o hanes eich sefydliad, cysylltiadau’r unigolyn â sefydliadau eraill sy’n destun pryder neu drwy wybodaeth amdanynt yn y parth cyhoeddus e.e. cyrff rheoleiddio, eich gwefan eich hun, eich tudalennau cyfryngau cymdeithasol neu chwiliadau eraill ar y rhyngrwyd. 

Oherwydd y cyfyngiadau o dan ddeddfwriaeth diogelu data, mae’n bosib na fydd modd i ni ddarparu unrhyw wybodaeth i chi ar y mater hwn neu geisio datrys y pryder sydd gennym ni.

Twyll 

Os byddwn yn adnabod risg o dwyll yn ystod ein hasesiad o’ch cais, mae’n bosib y byddwn yn gwrthod eich cais. Os down yn ymwybodol o unrhyw dwyll wrth i chi reoli ein grant, byddwn yn ysgrifennu atoch i ddechrau’r broses o adennill ein harian. Byddwn yn diddymu unrhyw daliadau sydd ar ddod, ac mae’n bosib y byddwn yn hysbysu’r Heddlu.

Os byddwch yn darparu gwybodaeth ffug neu anghywir yn eich cais neu unrhyw bryd yn ystod cyfnod unrhyw ariannu a ddyfarnwn i chi ac mae twyll yn cael ei ddatgelu, byddwn yn darparu manylion, gan gynnwys enwau Cyfarwyddwyr y Cwmni ar adeg y twyll, i asiantaethau atal twyll. Ni fyddwn yn goddef gwyngalchu arian nag unrhyw ymgais i’n hamddifadu ni trwy dwyll.

I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio asiantaethau atal twyll:

  • e-bostiwch diogelu.data@cronfagymunedolylg.org.uk
  • ffoniwch ein llinell gymorth ar 0300 123 0735
  • ysgrifennwch at Gwasanaethau Cwsmeriaid, Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, 10fed Llawr, Tŷ Helmont, Ffordd Churchill, Caerdydd, CF10 2DY.

Rhyddhau gwybodaeth 

I ddiogelu mecanweithiau datgelu ac atal twyll mewnol y Gronfa, ni fyddwn yn rhyddhau unrhyw wybodaeth benodol bellach am ein prosesau dadansoddi risg neu ganlyniadau ein gwiriadau. 

A allaf ymgeisio eto?  

Gallwch, ond byddwn yn cyflawni’r un gwiriadau ar unrhyw gais newydd. Os dengys y rhain nad yw ein pryderon wedi newid, mae’n annhebygol y bydd ein penderfyniad yn newid. Dylech gofio hefyd efallai bod y rhaglen rydych yn ymgeisio iddi’n agored dim ond am gyfnod cyfyngedig. 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’n gwiriadau dadansoddi risg, anfonwch e-bost i cymru@cronfagymunedolylg.org.uk neu ffoniwch 0300 123 0735.