Ar beth y gallwch chi wario’r arian
Ar beth y gallwch chi wario’r arian
Gallwch ddefnyddio'r arian ar gyfer pethau fel:
- costau staff
- treuliau gwirfoddoli
- costau prosiect cyffredinol
- gweithgareddau ymgysylltu
- dysgu a gwerthuso — gan gynnwys rhannu'r hyn rydych chi'n ei ddysgu
- cyfathrebu ac ymgyrchoedd
- cyfleustodau a chostau rhedeg o ddydd i ddydd
- datblygu a rheoli sefydliadol
- costau sy'n eich helpu i gefnogi cymunedau neu sefydliadau partner llai
- cyfarpar
- cyflwyno eich prosiect mewn ieithoedd eraill, megis y Gymraeg
Gweithgarwch gwleidyddol ac ymgyrchu
Gallwn ariannu rhywfaint o weithgarwch gwleidyddol, ond dim ond os:
- nad yw'n blaid-wleidyddol - mae'n rhaid iddo ganolbwyntio ar bolisi, deddfwriaeth neu arfer, nid cefnogi neu wrthwynebu plaid wleidyddol
- yw’n cefnogi achos eich sefydliad ac o fudd i'r cyhoedd
Ni allwn ariannu prosiectau lle mae gweithgarwch gwleidyddol yn brif bwrpas. Ond gallwn ariannu prosiectau sy'n ymwneud ag ymgyrchu yn bennaf, os ydynt yn bodloni'r meini prawf uchod.
Beth na allwch wario'r arian arno
Ni allwn ariannu:
- gweithgareddau sy'n cynhyrchu elw preifat
- gweithgareddau crefyddol (er y gallwn ariannu sefydliadau crefyddol os yw'r prosiect o fudd i'r gymuned ehangach ac nad yw'n cynnwys cynnwys crefyddol)
- unrhyw beth sy'n disodli arian y llywodraeth, er enghraifft, gweithgareddau ysgol sy'n digwydd yn ystod oriau addysgu
- gweithgareddau sydd o fudd i unigolion yn unig, yn hytrach na chymuned ehangach
- gweithgaredd gwleidyddol sy'n cefnogi neu'n gwrthwynebu plaid wleidyddol
- costau rydych eisoes wedi talu amdanynt (ni allwn ariannu costau ôl-weithredol)
- ad-daliadau benthyciadau
- ychwanegiadau cronfeydd wrth gefn
- teithio neu brosiectau y tu allan i'r DU
- cynhyrchu trydan, fel paneli solar
Costau cyfalaf a rhoi ymlaen
Rydym yn annhebygol o ariannu:
- gwaith adeiladu neu adnewyddu (costau cyfalaf)
- prosiectau sy'n defnyddio'r arian i roi grantiau i eraill (grantio ymlaen)
Os yw'ch prosiect yn cynnwys un o'r rhain, dylech siarad â ni cyn gwneud cais.
Effaith amgylcheddol
Rydyn ni eisiau cefnogi prosiectau sy'n diogelu'r amgylchedd. Gallwch ddarllen ein canllawiau ar:
- lleihau eich effaith amgylcheddol
- gwneud cynllun gweithredu amgylcheddol
Gallwch hefyd ymweld â’n tudalennau cynaliadwyedd amgylcheddol i gael hyd i ddysgu, mewnwelediadau a straeon gan eraill.
Cyflawni eich prosiect yng Nghymru
Os bydd eich prosiect yn gweithredu yng Nghymru, rhaid iddo gael ei gyflwyno yn Gymraeg a Saesneg. Gweler ein canllawiau ar reoli eich prosiect yn ddwyieithog (PDF, 129 KB).
Diogelu
Os yw'ch prosiect yn gweithio gyda phlant, pobl ifanc neu oedolion sy’n agored i niwed, rhaid i chi a'ch partneriaid gael polisïau diogelu ar waith. Efallai y byddwn yn gofyn i'w gweld os ydym yn cynnig grant i chi.
Darllenwch ein disgwyliadau diogelu ar gyfer sefydliadau rydyn ni'n eu hariannu.
Ymrwymiadau rheoli cymorthdaliadau’r DU
Mae ein grantiau yn gronfeydd cyhoeddus. Os ydym yn eich ariannu, bydd angen i chi gydymffurfio ag ymrwymiadau rheoli cymorthdaliadau’r DU. Gweler canllawiau Llywodraeth y DU ar reoli cymorthdaliadau. Rydym yn argymell ceisio cyngor cyfreithiol os nad ydych yn siŵr.