Neidio i'r prif gynnwys

Croeso i’n gwefan newydd. Efallai y byddwch yn gweld rhai tudalennau o’n hen wefan wrth i ni symud pethau draw.

Pwy na all wneud cais

Ni allwch wneud cais am y grant hwn os ydych chi’n:

  • un sefydliad nad yw'n rhan o bartneriaeth ffurfiol
  • unigolyn neu unig fasnachwr
  • sefydliad sy'n gwneud elw sy'n gallu rhannu elw yn breifat – er enghraifft, cwmni cyfyngedig gan gyfranddaliadau neu un heb glo asedau
  • wedi'ch lleoli y tu allan i'r DU
  • gwneud cais ar ran sefydliad arall (oni bai eu bod mewn partneriaeth ffurfiol gyda chi)
  • gwneud cais i fwy nag un o'n cronfeydd ar gyfer yr un prosiect ar yr un pryd

Gallwch wneud cais i gronfa arall os ydych wedi cael penderfyniad aflwyddiannus gennym ni.

Os ydych chi'n ysgol neu'n gweithio gydag ysgol

Rhaid i'ch prosiect fod o fudd i'r gymuned ehangach, nid athrawon, disgyblion neu rieni yn unig.

Nid ydym fel arfer yn ariannu gweithgareddau mewn ysgolion:

  • sy’n gwella cyfleusterau neu offer ysgol
  • sy’n cynnwys hyfforddiant staff cymorth
  • sy’n rhan o'r cwricwlwm
  • y disgwylir i'r ysgol gyflawni beth bynnag (megis addysgu pynciau craidd)
  • sy’n digwydd yn ystod oriau ysgol (efallai y bydd cyn neu ar ôl ysgol, neu yn ystod cinio yn iawn)

Os nad ydych yn siŵr a allwch wneud cais

Os nad ydych chi'n gweithio mewn partneriaeth, efallai na fydd y grant hwn yn iawn i chi. Gallwch: