Sut i wneud cais
Cyn i chi wneud cais
- Gwyliwch ein crynodeb fideo byr o Gronfa’r Deyrnas Unedig (YouTube). Trawsgrifiad fideo.
- Darllenwch y rhestr gyflawn o gwestiynau o'r ffurflen gais.
Sut i wneud cais
Os oes angen help arnoch gyda'ch cais
Os na allwch chi neu sefydliad partner lenwi'r ffurflen ar-lein, gallwn gynnig gwahanol ffyrdd o ddweud wrthym am eich prosiect:
- fersiwn hawdd ei ddarllen o'r ffurflen gais a'r canllawiau
- fersiwn PDF o'r ffurflen gais
- rhannu fideo yn disgrifio eich syniad prosiect, yn hytrach na'i ddisgrifio mewn geiriau
- fersiwn Iaith Arwyddion Prydain (BSL) o'r ffurflen gais a'r canllawiau
Cysylltwch â ni os oes gennych anghenion cymorth cyfathrebu.
Faint o arian allwch chi wneud cais amdano
- Gallwch wneud cais am rhwng £500,000 a £5 miliwn
- Gall y grant bara rhwng 2 a 10 mlynedd
- Rydym yn disgwyl ariannu tua 20 o brosiectau bob blwyddyn
Beth i'w gynnwys yn eich cais
Yn y ffurflen gais, byddwn yn gofyn i chi:
- beth rydych chi eisiau ei wneud a pham
- sut mae eich syniad yn bodloni ein nodau ariannu
- sut mae eich syniad yn bodloni'r meini prawf ariannu
- beth rydych chi'n gobeithio ei ddysgu a sut y gallai'r dysgu hwnnw wneud gwahaniaeth
Ar gyfer pwy mae angen manylion cyswllt arnom
Byddwn yn gofyn am fanylion cyswllt, cyfeiriadau cartref a dyddiadau geni dau berson o'ch sefydliad. Rhaid i bob person gael cyfeiriad e-bost gwahanol a byw yn y DU:
- dylai un fod y prif gyswllt ar gyfer eich prosiect, rhywun y gallwn siarad ag ef os oes gennym unrhyw gwestiynau
- rhaid i'r llall fod yn uwch aelod o'ch sefydliad a fydd yn gyfreithiol gyfrifol am yr arian
Rhaid i'r ddau berson hyn beidio â bod:
- yn briod neu mewn partneriaeth sifil
- mewn perthynas hirdymor neu'n byw yn yr un cyfeiriad
- yn perthyn trwy waed neu drwy bartner
Pa mor hir mae'n ei gymryd i gael penderfyniad?
Ar gyfartaledd, mae'n cymryd 9 mis i gael grant.
Mae 2 gam i'n proses ymgeisio. Gall gymryd:
- hyd at 4 mis i gael eich penderfyniad yn y cam cyntaf, o’r adeg pan fyddwch yn cyflwyno'ch cais
- hyd at 6 mis i anfon gwybodaeth ychwanegol atom a chael eich penderfyniad yn yr ail gam
Byddwn yn trafod yr amseriadau ar gyfer eich cais os byddwn yn mynd ag ef i'r ail gam.
Beth sy'n digwydd ar ôl i chi wneud cais
Byddwn yn adolygu eich cais
Efallai y byddwn yn cysylltu â chi i siarad am eich prosiect, neu i gael rhagor o wybodaeth. Oherwydd bod y gronfa hon yn hynod gystadleuol, byddwn ond yn gwahodd ceisiadau i'r cam nesaf os yw'ch cais yn cyd-fynd yn gryf â yr hyn yr ydym yn edrych i'w ariannu.
Ein nod yw rhoi gwybod i chi os ydym am fynd â'ch cais i'r ail gam
Byddwn yn rhoi gwybod i chi os ydych chi'n symud ymlaen i'r ail gam. Os nad ydych chi'n llwyddiannus, byddwn yn esbonio pam. Os byddwch yn llwyddiannus, byddwn yn anfon e-bost atoch i ofyn am wybodaeth fanylach am eich prosiect.
Byddwch yn anfon mwy o wybodaeth atom
Ar y cam hwn, byddwn yn gofyn am bethau fel gwybodaeth ariannol a chynnig prosiect manylach. Bydd gennych o leiaf 2 wythnos i anfon y wybodaeth hon atom. Bydd un o'n tîm yn adolygu'r hyn rydych chi'n ei anfon ac yn cysylltu â chi i ddysgu mwy am eich cynlluniau. Gall hyn gynnwys galwadau ffôn neu sgyrsiau e-bost.
Byddwn yn gwneud penderfyniad terfynol
Byddwn yn rhoi gwybod i chi a ydym yn mynd i ariannu eich cais ai peidio. Os na, byddwn yn rhoi adborth i chi yn esbonio pam.
Os ydych yn derbyn grant
Byddwn yn eich helpu i wneud y gorau o'ch grant. Mae hyn yn cynnwys:
- dathlu eich llwyddiant
- rhannu'r hyn rydych chi'n ei ddysgu gydag eraill
- eich helpu i gysylltu â phrosiectau eraill a ariennir
Darllenwch am beth sy'n digwydd pan fyddwch chi'n cael grant.
Rydyn ni eisiau bod yn onest am ein terfynau ariannu
Dim ond swm cyfyngedig o arian sydd gennym, ac rydym yn cael llawer o geisiadau cryf. Mae hynny'n golygu bod yn rhaid i ni weithiau ddweud na, hyd yn oed i brosiectau addawol sy'n bodloni ein meini prawf ac sydd â photensial cryf.
I ddarganfod sut rydym yn defnyddio eich data personol
Gallwch ddarllen ein datganiad diogelu data.