Neidio i'r prif gynnwys

Croeso i’n gwefan newydd. Efallai y byddwch yn gweld rhai tudalennau o’n hen wefan wrth i ni symud pethau draw.

Pwy all wneud cais

Gall eich sefydliad wneud cais os yw'n un o'r canlynol:

  • elusen gofrestredig
  • cwmni cyfyngedig trwy warant (gyda chymal nid-er-elw neu wedi'i gofrestru fel elusen)
  • cwmni buddiannau cymunedol (CIC)
  • sefydliad corfforedig elusennol (CIO)
  • cymdeithas budd cymunedol
  • cymdeithas gydweithredol (gyda chymal nid-er-elw ac wedi'i chofrestru gyda'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol)
  • corff statudol (megis tref, plwyf neu gyngor cymuned)
  • awdurdodau lleol
  • prifysgolion

Gallwch hefyd wneud cais fel partneriaeth o sefydliadau. Rhaid i unrhyw bartneriaid a fydd yn derbyn arian fod yn un o'r mathau a restrir uchod.

Os oes angen clo asedau ar eich sefydliad

Rhaid i rai sefydliadau gael clo asedau. Mae hyn yn golygu bod gennych reolau sy'n atal eich asedau rhag cael eu gwerthu neu eu defnyddio er budd preifat.

Rhaid i chi gael clo asedau os ydych chi’n:

  • CIC
  • cwmni cyfyngedig trwy warant nad yw'n elusen gofrestredig
  • cymdeithas budd cymunedol
  • cymdeithas gydweithredol

Gallwch ddarllen mwy yng nghanllaw y llywodraeth i gloeon asedau ar gyfer CICs.

Rhaid i'ch sefydliad gael o leiaf 2 aelod bwrdd neu bwyllgor nad ydynt yn gysylltiedig

Mae hyn yn golygu na ddylent fod:

  • yn briod neu mewn partneriaeth sifil
  • mewn perthynas hirdymor neu'n byw yn yr un cyfeiriad
  • yn perthyn trwy waed neu drwy bartner

Os ydych chi'n gwmni, gan gynnwys un sydd hefyd yn elusen gofrestredig, rhaid i chi gael o leiaf 2 gyfarwyddwr nad ydynt yn gysylltiedig yn unrhyw un o'r ffyrdd hyn.

Os oes gennych grant gennym ni yn barod

Gallwch wneud cais o hyd. Byddwn yn edrych ar sut y byddai'r grant hwn yn gweithio ochr yn ochr â'ch grant arall pan fyddwn yn asesu eich cais.