Ar beth y gallwch chi wario'r arian
Gallwch wario'r arian ar:
- costau staff, gan gynnwys gweithwyr sesiynol
- datblygu sefydliadol fel hyfforddi staff, gwella llywodraethu, uwchraddio TG neu rannu dysgu
- trafnidiaeth
- cyfleustodau a chostau rhedeg
- treuliau gwirfoddoli
- dysgu a gwerthuso
- cyfarpar
- costau cyfalaf – er y dylai'r rhain fod yn rhan fach o'ch cais am grant
- costau cyfieithu neu gyfieithu ar y pryd, er enghraifft i gyflawni eich prosiect yn Gymraeg
Gallwn ariannu rhywfaint o weithgarwch gwleidyddol ac ymgyrchu
Gallwn ariannu ymgyrchu neu weithgarwch gwleidyddol ond dim ond:
- os nad yw'n blaid-wleidyddol
- os yw’n cefnogi eich achos ac o fudd i'r cyhoedd
Ni fyddwn yn ariannu prosiectau sy'n bodoli yn bennaf i ymgyrchu, neu i hyrwyddo neu wrthwynebu plaid wleidyddol. Os yw'ch prosiect yn cynnwys ymgyrchu, byddwn yn trafod hyn gyda chi yn y cam nesaf.
Ni fyddwn yn ariannu:
- gweithgareddau statudol a gweithgareddau sy'n disodli arian y llywodraeth
- prosiectau cyfalaf neu adeiladu mawr
- benthyciadau, gwaddol neu log
- talu rhywun arall i ysgrifennu eich cais
- gweithgareddau lle bydd elw yn cael ei ddosbarthu er budd preifat
- gweithgareddau codi arian
- TAW y gallwch ei adennill
- alcohol
- pethau rydych chi wedi gwario arian arnynt yn y gorffennol ac yn edrych i'w hawlio nawr (costau ôl-weithredol)
- eitemau a fydd o fudd i unigolyn yn unig, yn hytrach na'r gymuned ehangach
- gweithgareddau crefyddol (gallwn ariannu sefydliadau crefyddol os yw eu prosiect o fudd i'r gymuned ehangach ac nad yw'n cynnwys cynnwys crefyddol)
Ymrwymiadau rheoli cymorthdaliadau’r DU
Daw ein grantiau o gronfeydd cyhoeddus a gofynnir i geisiadau llwyddiannus gydymffurfio ag ymrwymiadau rheoli cymhorthdaliadau rhyngwladol y DU a restrir ar wefan GOV.UK. Dylech geisio cyngor cyfreithiol annibynnol os oes angen mwy o arweiniad arnoch.
Cyflawni eich prosiect yng Nghymru
Os mai Cymru yw un o'r gwledydd y byddwch chi'n gweithio ynddi, bydd angen i chi ddarparu eich gwasanaethau yn ddwyieithog (yn Gymraeg a Saesneg). Mae hyn yn rhan o'n telerau grant; cofiwch gynnwys y costau yn eich cyllideb. Darllenwch ein canllawiau ar reoli eich prosiect yn ddwyieithog (PDF, 127 KB).