Neidio i'r prif gynnwys

Croeso i’n gwefan newydd. Efallai y byddwch yn gweld rhai tudalennau o’n hen wefan wrth i ni symud pethau draw.

Sut i ymgeisio drwy fideo

Ar gyfer rhai rhaglenni, gallwch anfon fideo atom yn hytrach nag ysgrifennu am eich syniad neu brosiect. Bydd y ffurflen gais ar gyfer y rhaglen ariannu yn dweud os cewch wneud cais drwy fideo.

Yr hyn rydym ei angen yn eich fideo

Dylech sicrhau bod eich fideo yn darparu’r holl wybodaeth rydym wedi gofyn amdani yn y canllawiau ymgeisio. Dylech ddefnyddio’r fideo hon i ateb yr adran ‘Eich syniad’ yn y ffurflen gais.

Sut i greu eich fideo

Peidiwch â phoeni gormod am steil y fideo. Mae angen i’r sain fod yn glir ac i ni allu clywed yr hyn rydych chi’n ei ddweud.

Dylech osgoi ffilmio mewn mannau sydd â gormod o sŵn cefndirol fel yn yr awyr agored, mewn caffi neu swyddfa brysur. Mae ystafell dawel a gwag yn le da i ffilmio. Gallwch ei ffilmio ar ffon os dymunwch.

Dylai eich fideo fod tua 5 munud o hyd ond dim hirach na 12 munud.

Os ydych yn mynd i greu fideo o bobl yn cymryd rhan yn eich prosiect, dylech sicrhau eich bod wedi cael eu caniatâd yn gyntaf. Fel arfer, byddech yn gwneud hyn gyda ffurflen ganiatâd. Cewch wybodaeth am ganiatâd gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).

Sut i lanlwytho eich fideo

Ar ôl i chi greu eich fideo, bydd angen i chi ei lanlwytho i rywle ar-lein ac anfon dolen atom i ni ei gwylio. Ni allwch anfon y ffeil fideo atom ni’n uniongyrchol, nac ei lanlwytho i safle fel DropBox, Google Drive, neu OneDrive. Mae angen dolen arnom yn hytrach na hynny.

Mae YouTube a Vimeo yn ddwy esiampl o wefannau cynnal fideos y gallech eu defnyddio:

Sut i anfon dolen i’ch fideo atom

Pan fyddwch wedi lanlwytho eich fideo, nodwch y cyfeiriad gwefan llawn (URL) ar gyfer eich fideo ar y ffurflen gais.

Dylech sicrhau fod cyfeiriad y wefan yn gywir fel y gallwn wylio eich fideo. Bydd y cyfeiriad gwefan llawn yn cynnwys yr holl lythrennau a symbolau sydd ar ddechrau’r URL. Mae hyn yn cynnwys yr http:// neu’r https:// ar y dechrau.

Diogelu eich preifatrwydd

Eich cyfrifoldeb chi yw tynnu'r fideo o’r wefan sy’n ei chynnal ar ôl i benderfyniad terfynol gael ei wneud. Darllenwch hysbysiad preifatrwydd y wefan ei hun am ragor o wybodaeth ynglŷn â beth sy’n digwydd i’ch fideo os ydych yn ei gadael yno.

Os ydych yn defnyddio YouTube, gallwch ddewis peidio â rhestru eich fideo er mwyn sicrhau nad yw’n cael ei gweld yn gyhoeddus.

Sut y byddwn yn adolygu ac asesu eich fideo

Pan fyddwn yn cael dolen i’ch fideo chi, dim ond y staff sy’n gwneud penderfyniad ynghylch eich cais a fydd yn ei hadolygu. Ni fydd yn cael ei rhannu na’i phostio ar-lein yn unman.

Bydd yn cael ei hasesu yn yr un modd â chais ysgrifenedig.

Unrhyw gwestiynau?

Cysylltwch â ni