Grantiau rydym ni wedi eu dyfarnu
Y prosiectau sydd wedi derbyn grantiau
E.L.I.T.E Supported Employment Agency Ltd
Mae E.L.I.T.E Supported Employment Agency Ltd, mewn partneriaeth ag Innovate Trust, wedi derbyn £3,000,000 i gefnogi pobl ifanc sydd ag anabledd i ddatblygu eu hymwybyddiaeth, sgiliau a chyflogadwyedd o ran gyrfaoedd yn y diwydiant gwyrdd. Bydd y prosiect wedi ei leoli yn Merthyr Tydfil, Rhondda Cynon Taf (RCT), Blaenau Gwent, Caerffili, Caerdydd, a Bro Morgannwg.
Gan ddefnyddio dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, bydd y prosiect yn darparu hyfforddiant swyddi i bobl ifanc fynd ar leoliad gwaith â thâl a’u helpu i feithrin sgiliau teithio i’r gwaith yn annibynnol. Yn ogystal, bydd cyfleoedd gwirfoddoli yn cael eu cynnig i wella eu cyflogadwyedd.
Mae’r prosiect yn bwriadu ymgysylltu â chyflogwyr yn y sector wyrdd i ddatblygu eu hymwybyddiaeth o gyflogaeth gynhwysol a chymorth anabledd, gyda’r nod fod o leiaf hanner y cyflogwyr hyn yn ennill statws Hyderus o ran Anabledd. Bydd rhannu’r dysgu yn rheolaidd trwy ddata ac adroddiadau yn helpu i ddylanwadu ar bolisi ac arferion.
Foothold Cymru
Mae Foothold Cymru, mewn partneriaeth ag Antur Cymru, Menter Gorllewin Sir Gar a Planed, wedi derbyn £3,153,491 i gefnogi pobl ifanc sydd ag anableddau a phobl ifanc o gymunedau lleiafrifol ethnig i fynd ar drywydd gyrfaoedd gwyrdd trwy ddatblygu eu sgiliau, darparu profiad gwaith a chefnogi cyflogaeth tymor hir. Bydd hyn wedi ei leoli yn Sir Gâr, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys.
Bydd y prosiect yn codi ymwybyddiaeth o yrfaoedd gwyrdd ymysg pobl ifanc, yn sicrhau fod cyflogwyr â’r gallu i gefnogi talent amrywiol, ac yn rhannu mewnwelediadau i ddylanwadu ar bolisi ac arferion. Bydd hyn yn cael ei gyflawni trwy hyfforddiant, profiad gwaith, interniaethau, gwirfoddoli a gweithio’n agos gyda chyflogwyr i sicrhau fod pawb yn teimlo wedi’u cynnwys a’u cefnogi.
Pobl Homes and Communities Ltd
Mae Pobl Homes and Communities Ltd, mewn partneriaeth â’r Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig, Greening Maindee New Yemeni Community Association, Pobl Care and Support Limited, Swansea Community Farm, The Gap Wales ac ELITE Supported Employment Agency Ltd, wedi derbyn £3,000,000 i annog amrywiaeth mewn gyrfaoedd gwyrdd trwy gefnogi pobl ifanc sydd ag anableddau a phobl ifanc o gymunedau lleiafrifol ethnig o gymunedau yng Nghasnewydd ac Abertawe.
Bydd y prosiect yn addysgu pobl ifanc am yrfaoedd gwyrdd, yn eu helpu i feithrin sgiliau ac yn darparu cyfleoedd i wirfoddoli a chael gwaith tymor hir. Bydd yn hyrwyddo arweinyddiaeth gan ieuenctid trwy Fwrdd Llysgenhadon Gwyrdd Ifanc, Uwchgynhadledd Ieuenctid Gwyrdd a arweinir gan yr ifanc ac yn ymgysylltu â phobl ifanc drwy’r cyfryngau cymdeithasol. Bydd y
prosiect yn gweithio i addysgu cyflogwyr ynglŷn â sut i wneud eu sefydliadau yn fwy cynhwysol, ac eirioli dros newidiadau mewn polisi ac arferion.
Rhyl City Strategy CIC
Mae Rhyl City Strategy CIC, mewn partneriaeth ag Adferiad, Co-options Community Cooperative a Phrifysgol Bangor, wedi derbyn £3,180,371 i gefnogi pobl ifanc sydd ag anableddau a phobl ifanc o gymunedau lleiafrifol ethnig i fynd ar drywydd gyrfaoedd yn y diwydiant gwyrdd yng ngogledd Cymru.
Trwy hyfforddiant sgiliau, profiad gwaith a lleoliad gwaith gyda thâl, byd pobl ifanc yn cynyddu eu dealltwriaeth o yrfaoedd gwyrdd ac yn cael y cyfle i sicrhau gwaith tymor hir. Mae’r sefydliad yn bwriadu darparu sesiynau gwybodaeth a gweithgareddau i wella dealltwriaeth y gymuned leol o yrfaoedd gwyrdd ac annog cyflogwyr i wneud newidiadau cadarnhaol i’w gweithle er mwyn gwella amrywiaeth a chynhwysiad.