Camau Cynaliadwy Cymru - Gyrfaoedd Gwyrdd
- Lleoliad y prosiect: Cymru
- Swm: £20,001 i £3,000,000
- Penderfyniad mewn: 0 wythnos
- Statws y rhaglen: Ar gau i geisiadau
Mae'r rhaglen hon bellach ar gau i geisiadau newydd.
Nod y rhaglen hon yw helpu pobl ifanc (rhwng 16 a 30 oed) yng Nghymru i gael gyrfaoedd gwyrdd. Drwy yrfaoedd gwyrdd, rydym yn golygu gyrfaoedd sy'n lleihau allyriadau carbon, adfer byd natur ac yn ein helpu i addasu i'n hinsawdd newidiol.
Gallai enghreifftiau o yrfaoedd gwyrdd fod yn unrhyw beth o gynorthwyydd gweinyddol i ymgynghorydd amgylcheddol, i gogydd mewn caffi diwastraff, neu beiriannydd dan hyfforddiant i gwmni ynni adnewyddadwy.
Rydym yn ariannu prosiectau sy'n helpu pobl ifanc:
- datblygu eu hyder
- dysgu sgiliau newydd iddynt – gallai hyn gynnwys sgiliau cymdeithasol a thechnegol
- cael profiad a lleoliadau gwaith a allai arwain at gyfleoedd hirdymor.
Hoffem ariannu prosiectau sy'n canolbwyntio ar gefnogi pobl ifanc ag anableddau a/neu bobl ifanc o gymunedau ethnig leiafrifol. Ein nod yw annog amrywiaeth mewn gyrfaoedd gwyrdd drwy roi help llaw i'r grwpiau hyn sydd heb gynrychiolaeth ddigonol.
I gael grant, rhaid i chi fod eisiau gweithio mewn partneriaeth. Gallwn eich helpu i gysylltu â sefydliadau eraill sydd â diddordeb.