Yr hyn rydyn ni'n chwilio amdano yn eich cais
I dderbyn grant, rhaid i chi ddangos:
bod eich sefydliad a'ch partneriaid wedi'u cysylltu'n dda ac yn cael eu hymddiried gan y cymunedau rydych eisiau gweithio gyda nhw
eich bod wedi gweithio gyda phobl ifanc, cyflogwyr, addysgwyr a gwasanaethau eraill i ddatblygu eich syniadau
eich bod yn gallu cefnogi pobl ifanc, pa bynnag lwybr maent yn ei ddewis mewn i swydd werdd
Sut mae pobl ifanc o'r grwpiau rydych chi am eu targedu wedi helpu i ddylunio eich prosiect
Rydym eisiau gweld sut rydych chi wedi neu y byddwch yn cynnwys pobl ifanc i ddylunio, cyflawni a gwerthuso eich prosiect.
Cymorth pwrpasol o ansawdd uchel i bobl ifanc
Rhaid i chi:
helpu pobl ifanc i ddatblygu eu hyder
amddiffyn eu llesiant emosiynol
gweithio i'w cyflymder nhw
Fel hyn, gallwch sicrhau fod pobl ifanc yn derbyn y profiad a chanlyniad gorau posibl.
Rhaid i chi hefyd:
ddarparu cefnogaeth cyn cyflogaeth, yn ystod cyflogaeth ac ar ôl cyflogaeth
cynllunio i weithio gydag eraill sydd eisoes yn cefnogi pobl ifanc. Er enghraifft, eu rhieni, gofalwyr a gweithwyr cymdeithasol
mynd i'r afael ag unrhyw rwystrau unigryw at gyfranogiad i fenywod neu ferched
I gael mwy o wybodaeth ar sut i gefnogi ac arwain pobl ifanc mewn i gyflogaeth, gwyliwch y fideo hwn gan Engage to Change.
Sut y bydd eich prosiect yn paratoi pobl ifanc ar gyfer gwaith
Gallai hyn gynnwys:
datblygu sgiliau a phrofiad gwaith di-dâl
lleoliad gwaith â thâl am hyd at 12 mis
profiad gwaith a lleoliadau sy'n addas ar gyfer dyheadau'r person ifanc
cyfle i roi cynnig ar fwy nag un lleoliad os yw hynny'n addas i'w hanghenion
gwneud yn siŵr y bydd gan bob person ifanc fynediad at gefnogaeth wrth hyfforddwr gwaith neu fentor
Rhaid i'r prosiect hefyd:
annog cyflogwyr i barhau i gyflogi'r person ifanc ar ôl i'r lleoliad orffen, lle bynnag bo'n bosibl
monitro taith y bobl ifanc am o leiaf 6 mis yn dilyn eu lleoli
Eich dealltwriaeth o sefyllfa bresennol a dyfodol yr economi yn eich rhanbarth
Mae angen i chi ddangos eich bod chi'n gwybod am ddatblygiadau presennol ac yn y dyfodol o amgylch sgiliau a chyflogaeth yn yr economi werdd.
Mae hyn yn cynnwys:
y gallu i adeiladu cysylltiadau cryf gyda chyflogwyr
helpu i ddeall anghenion y person ifanc yn well a sut i addasu er mwyn eu cefnogi nhw
Sut y bydd eich prosiect yn meithrin dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o sgiliau'r dyfodol a phosibiliadau swyddi gwyrdd
Rhaid i chi:
gael cynllun ymgysylltu rhagweithiol i helpu mwy o bobl ifanc i ystyried gyrfaoedd gwyrdd
cynnig achrediad ar gyfer cyrsiau mae'r bobl ifanc yn eu gwneud fel y gall cyflogwyr ddeall a chydnabod y sgiliau maen nhw wedi'u hennill
Sut y bydd eich prosiect yn cael ei gyflwyno'n ddwyieithog yn Gymraeg a Saesneg
Mae angen i chi sicrhau bod eich holl weithgareddau ar gael i'ch cymuned yn y ddwy iaith. Am ragor o wybodaeth darllenwch ein canllawiau ar reoli eich prosiect yn ddwyieithog (PDF, 125 KB) neu cysylltwch â Thîm y Gymraeg drwy e-bostio WelshLanguage.Advice@TNLCommunityFund.org.uk
Dylech wneud yn siŵr bod eich cyllideb arfaethedig yn cynnwys costau ar gyfer cyflawni eich prosiect yn ddwyieithog, fel ar gyfer gwaith cyfieithu. Efallai y bydd angen i chi ystyried ffyrdd eraill o gyrraedd eich cynulleidfa darged.
Anghenion ieithyddol eraill
Efallai y bydd angen i chi weithio mewn ieithoedd eraill i helpu pobl i gael mynediad i'ch arian. Os yw hynny'n wir, gwnewch yn siŵr eich bod yn ystyried cymorth cyfieithu arall y gallai fod ei angen arnoch a faint y gallai ei gostio.
Polisi gweithredol ar waith i gadw pobl yn ddiogel
Gan eich bod yn gweithio gyda phobl ifanc, bydd angen i chi gael polisi ar waith sy'n esbonio sut y byddant yn ddiogel, gan gynnwys asesiadau risg, hyfforddiant ac unrhyw beth arall sydd ei angen. Mae gan wefan NCVO wasanaethau cyngor a gwybodaeth ar ddiogelu plant.
Os ydych chi'n cael grant, bydd angen i chi ddilyn ein polisi ar ddiogelu plant ac oedolion mewn perygl.
Sut y byddwch chi'n cyfyngu'r effaith ar yr amgylchedd
Rydym eisiau ariannu prosiectau a fydd yn lleihau allyriadau carbon a'r effaith ar natur ac yn gwneud y mwyaf o fanteision amgylcheddol. Darllenwch ganllawiau ar gyfer lleihau eich ôl troed amgylcheddol.
Sut y byddwch chi'n bodloni rheolau Rheoli Cymhorthdal
Daw ein grantiau o gronfeydd cyhoeddus a gofynnir i geisiadau llwyddiannus gydymffurfio ag Ymrwymiadau Rheoli Cymhorthdaliadau Rhyngwladol y Deyrnas Unedig. Dylech geisio cyngor cyfreithiol annibynnol os oes angen mwy o arweiniad arnoch.
Enghreifftiau o brosiectau rydyn ni wedi'u hariannu o'r blaen
Os ydych chi eisiau mwy o fewnwelediad i'r hyn rydyn ni'n chwilio amdano, darllenwch enghreifftiau o brosiectau rydyn ni wed i'u hariannu o'r blaen.